Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


MIs Meibion a Merched

Published: 21/10/2015

Mae Tîm Maethu Sir y Fflint yn cefnogi mis Meibion a Merched y Rhwydwaith Maethu i gydnabod cyfraniad gwerthfawr plant gofalwyr maeth. Bob blwyddyn, ym mis Hydref, bydd y gwasanaethau maethu drwy’r DU yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod a gwobrwyo plant a phobl ifanc am groesawu plant maeth i’w teuluoedd. Mae Leah Ellison, 23, o’r Wyddgrug wedi bod yn rhan o deulu maeth ers 7 blynedd. Dechreuodd ei rhieni faethu pan oedd yn 16 oed ac maent wedi gofalu am 27 o blant at ei gilydd. Mae’n dweud bod y profiad o fod yn rhan o deulu maeth wedi bod un gwirioneddol werthfawr. ”Roeddwn yn unig blentyn felly mae maethu wedi bod yn gyfle i mi osod esiampl i blant iau. Mae wedi bod yn gyfle i mi fod yn berson y mae plant yn ei edmygu ac mae hynny, yn ei dro, wedi fy ysbrydoli i fod yn berson gwell,” eglurodd. “Mae maethu’n brofiad da. Mae’n ddiddorol ac rydych yn dysgu rhywbeth o hyd. Mae’n anhygoel cael y cyfle i greu perthynas â chynifer o bobl ddiddorol o wahanol gefndiroedd. “Doeddwn i ddim yn siwr i ddechrau, ond rwy’n siwr bod hynny’n wir yn achos pob plentyn sy’n rhan o deulu maeth, ond os rhowch gyfle iddo, fyddwch chi ddim yn edifarhau.” Ychwanegodd Leah, sy’n awr yn byw oddi cartref;” Fedra i ddim dychmygu mynd adref heb weld wynebau gwahanol yn fy nghroesawu a’r cynhesrwydd a’r cariad y gall plentyn mewn gofal ei gynnig.” Bydd Tîm Maethu Sir y Fflint yn trefnu tripiau i blant gofalwyr maeth yn ystod gwyliau’r ysgol i ddiolch iddynt am eu cyfraniad fel rhan o deulu maeth. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Gwyddom fod plant biolegol gofalwyr maeth yn bwysig iawn yn yr ymdrech i helpu plant maeth i deimlo’n hapus a diogel, yn enwedig pan fyddant yn cyrraedd ac yn teimlo’n llawn ofn. Maent yn rhannu eu rhieni, eu teganau a’u cartref felly mae’n bwysig bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.” I gyd-fynd ag ymgyrch Meibion a Merched y rhwydwaith Maethu, mae Tîm Maethu Cyngor Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Springfield Hotel ger Treffynnon am 7pm nos Iau 22 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch 01352 702190.