Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015

Published: 29/10/2015

Bu Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015 yn llwyddiant am y nawfed flwyddyn yn olynol, a bu mwy na 2,000 o gynrychiolwyr yn bresennol mewn digwyddiadau a gweithdai gan brofi bod Sir y Fflint yn lle sydd wedi hen sefydlu i wneud busnes. Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni roedd yr agoriad swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Jones, Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn yr Arddangosfa Fusnes Ranbarthol yng Ngholeg Cambria, dan nawdd Westbridge Furniture Designs. Dyma’r arddangosfa fusnes fwyaf oi bath yn y Gogledd gyda 62 o stondinau yn rhoi sylw i gwmnïau a gwasanaethau o bob cwr o’r rhanbarth. Roedd gweithdai a seminarau yn trafod y cyfryngau cymdeithasol a marchnata a mynychodd mwy na 200 o bobl frecwast arloesi Cynghrair Merswy a Dyfrdwy. Yn y seminarau Rhagolygon Twf Rhanbarthol ar y dydd Mercher yng ngwesty Springfield, Treffynnon, roedd siaradwyr ar ran prosiect Carchar Gogledd Cymru; Porth y Gogledd a Bwrdd Hyfforddir Diwydiant Adeiladu, ac ar y dydd Iau yn y Diwrnod Economi Cenedlaethol a Rhanbarthol yng ngwesty De Vere St. David’s, Ewlo. Roedd y cyflwynwyr yn cynnwys Deloitte, Grant Thornton a Banc Barclays. Ar y dydd Gwener, daeth Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol i Sir y Fflint i gynnal sesiwn Hawl i Holi, wedi ei threfnu gan gangen Cymru o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain. Hefyd, ar y dydd Gwener cafwyd lansiad swyddogol Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir y Fflint, sy’n rhan o gynllun ehangach yn y Gogledd Ddwyrain, yn dilyn digwyddiad llwyddiannus ar y cyd â Pro PPC yng Ngwesty Gwledig Llaneurgain. Daeth Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015 i ben gyda Gwobrau Busnes Sir y Fflint a gynhaliwyd yn Neuadd Sychdyn ar ddydd Gwener 23 Hydref. Eleni, cynhaliwyd Wythnos Fusnes Sir y Fflint mewn partneriaeth ag AGS Security Systems, Westbridge Furniture Designs, ynghyd â nifer o bartneriaid a noddwyr eraill. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint unwaith eto wedi dod â channoedd o fusnesau ynghyd mewn partneriaeth unigryw a llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus ar sector preifat. Fe gawsom ddigwyddiadau a seminarau gwych, ac ar ran y Cyngor, rydw i eisiau diolch yn ddiffuant in holl noddwyr a’n partneriaid syn gweithio mor galed gyda thîm Datblygu Busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn bosib. Cynhaliwyd Wythnos Fusnes Sir y Fflint rhwng 13 a 16 Hydref: http://flintshirebusinessweek.co.uk/?lang=cy. Ceir manylion ynglyn â Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn http://flintshirebusinessweek.co.uk/ynglyn-gwobrau-busnes-sir-fflint/?lang=cy.