Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr yn Cyfnewid Diwylliant

Published: 29/10/2015

Mae myfyrwyr o Sir y Fflint wedi elwa yn sgil cael cyfle gwych i ddysgu am ddiwylliant Japan diolch i raglen gyfnewid leol. Cymerodd chwe myfyriwr lleol ran yn y rhaglen eleni diolch i gyllid gan Toyota UK sydd wedi eu lleoli yng Nglannau Dyfrdwy a chan Sefydliad Sasakawa Prydain, syn cefnogi rhaglenni addysgol Japaneaidd. Cawsant fwynhau ymweliad diwylliannol anhygoel i Japan wedi i’w teuluoedd nhw roi llety i fyfyrwyr o Japan am bythefnos. Maer teithiau cyfnewid, sy’n cael eu cydlynu gan Gyngor Sir y Fflint, wedi bod yn cael eu cynnal ers 25 mlynedd diolch i gronfa ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan Optec Cyf. sydd wedi eu lleoli ym Mwcle. Maent hefyd yn cael eu hariannu drwy grantiau a rhoddion ac roedd eleni’n flwyddyn nodedig oherwydd cafwyd dau gyfraniad hael iawn. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Maer teithiau cyfnewid hyn yn gyfle gwych i bobl ifanc o Sir y Fflint ac o Japan weld a phrofi diwylliant gwahanol ac rydym yn ddiolchgar iawn ir sefydliadau sy’n eu cefnogi ac yn helpu i wneud hyn yn bosibl.” Bydd y myfyrwyr yn siarad am eu profiadau mewn noson yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir ar 2 Tachwedd i roi cipolwg i bobl ifanc eraill sy’n ystyried gwneud cais i fynd ar daith gyfnewid y flwyddyn nesaf. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rhaglen gyfnewid gan Beth Ditson ar 07786523601 neu beth.ditson@flintshire.gov.uk Capsiwn - Graham Smith (chwith), un o ymddiriedolwyr y rhaglen cyfnewid ieuenctid yn derbyn y siec oddi wrth Martin Fry o Adran Materion Cyffredinol Toyota yn eu Ffatri Beiriannau yng Nglannau Dyfrdwy.