Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwiliwch eich Archifau

Published: 29/10/2015

Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal sgwrs ynglyn â ‘sgandal’ Edwardaidd. Cyflwynir y sgwrs a elwir yn ‘Ellen Penketh – Thief or Innocent Cook’ gan staff o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwiliwch Eich Archifau. Roedd Ellen Penketh yn gogydd yn Erddig, Wrecsam, a gafodd ei hamau’n ddiweddarach o fod yn lleidr. Bydd y sgwrs yn datgelu datblygiadau’r digwyddiadau a sut y symudodd o fywyd yn y gegin i fywyd tu ôl i farrau cell a sut y daeth yn un o’r sgandalau mwyaf yn yr ardal leol. Bydd y sgwrs yn seiliedig ar gofnodion gwreiddiol o gasgliad archifau Erddig a gedwir yn Yr Archifdy, Hen Adeilad y Rheithordy, Penarlâg. Bydd y Gwarchodwr Mark Allen hefyd yn trafod cadwraeth Llyfr Teulu Erddig a ariennir gan grant. Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad a gynhelir ddydd Sadwrn 14 Tachwedd rhwng 3-5pm yn hanfodol. Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad a dysgu am y stori anhygoel hon anfon e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffonio 01244 532364. Nodyn i olygyddion Mae Ymgyrch Archwiliwch eich Archifau wedi’i ddylunio ar gyfer archifau o bob math ledled y DU ac Iwerddon. Cydlynir yr ymgyrch gan yr Archifau Gwladol ac mae Cymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon) yn awr yn ei drydedd flwyddyn. Eleni cynhelir prif wythnos lansio ymgyrch Archwiliwch eich Archifau o ddydd Sadwrn 14 Tachwedd tan ddydd Sul 22 Tachwedd 2015.