Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyniad Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan

Published: 16/11/2015

Rhoddodd pump o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan ar gyfer Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint 2015, gipolwg disglair ar eu profiadau yn gynharach y mis hwn i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer taith gyfnewid 2016, mewn Noson Gyflwyno a gynhaliwyd gan y Cyng. Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint. Ar ôl eu hymweliad â Japan ddiwedd mis Gorffennaf, trafododd Luke Ralphs-Davies, Georgina Wrigley, Eithne Preece, Shannon Tudor a Sam Entwistle sgiliau ac arferion bywyd Japan, gan gynnwys eu profiadau o fyw mewn cartref yn Japan, pa fath o fwyd roeddent yn ei fwyta, yr ymdrechion ailadeiladu yn Miyagi Prefecture ar ôl tswnami 2012, ar mannau gwych y gwnaethant ymweld â nhw yn ystod eu harhosiad o bythefnos. Fe wnaethant sôn hefyd am sut y gwnaethant groesawur myfyrwyr Japaneaidd i’r wlad hon, gan ddangos agweddau ar ddiwylliant Cymru i’w myfyrwyr, a’r clymau o gyfeillgarwch a grëwyd yn ystod y pedair wythnos ar ôl y daith gyfnewid. Dangosodd y myfyrwyr sleidiau ou hymweliadau â Tokyo, beddrodau, a mannau o harddwch naturiol, a lluniau eraill o’u gweithgareddau fel gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau. Cytunodd rhieni Sir y Fflint a groesawodd fyfyrwyr o Japan iw cartrefi, ei fod wedi bod yn brofiad unwaith mewn oes i’r teulu cyfan, ac y byddent yn ei argymell i unrhyw deulu sydd â phlentyn gyda diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer taith gyfnewid 2016. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: Mae llawer o bobl ifanc wedi mwynhau ac elwa ou profiadau a ddarperir gan Daith Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint dros y blynyddoedd, a byddwn yn annog pobl eraill i gael gwybod mwy am beth mae’r rhaglen gyffrous hon yn ei chynnig a sut y gallant fod yn rhan ohoni yn y dyfodol.” Y Cyng. Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint. “Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint am ei chyllid parhaus a hael o ochr Sir y Fflint o’r rhaglen gyfnewid, a hefyd y cymorth hael a ddarparwyd eleni gan Toyota UK, Glannau Dyfrdwy ac Ymddiriedolaeth Sasakawa Prydain Fawr.” Maer daith gyfnewid yn cael ei chydlynu gan Gyngor Sir y Fflint ac yn agored i bob myfyriwr 16 -18 oed ar 1 Medi 2015 sydd mewn addysg llawn amser yn ysgolion uwchradd a cholegau Sir y Fflint. Mae disgwyl i geisiadau ar gyfer taith gyfnewid 2016 gael eu dychwelyd erbyn dydd Llun 23 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflen gais, cysylltwch â Beth Ditson, Cydlynydd Taith