Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cadeirydd Newydd
Published: 20/05/2014
Heddiw (dydd Mawrth 20 Mai) mae Cyngor Sir y Fflint wedi ethol y Cynghorydd
Glenys Diskin YH yn Gadeirydd.
Ganwyd y Cynghorydd Diskin yn Shotton ac mae’n byw ym Mancot ers 32 mlynedd.
Mae’n briod â’r Cynghorydd Alan Diskin ac mae ganddi fab a merch.
Mae’r Cyng. Diskin yn rhedeg Swyddfa Bost Mancot ers 29 mlynedd ac yn
gynghorydd Llafur ers dros 25 mlynedd. Mae’n Gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu
Gogledd Cymru ac mae hefyd yn Ynad Heddwch ers 22 mlynedd.
Yr Is-gadeirydd am y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Ray Hughes.
Mae’r Cyng. Ray Hughes yn cynrychioli Coed-llai ers 2008. Roedd yn gynghorydd
ar Gyngor Bwrdeistref Delyn ac mae’n gynghorydd cymuned ers 40 mlynedd. Mae’n
briod â Gwenda ac mae ganddo dri mab.
Roedd Ray yn arfer gweithio fel saer ac mae’n brysur iawn yn ei gymuned leol ac
mae ganddo ddiddordeb mawr mewn pêl-droed a chriced.