Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Atal yr Hawl i Brynu

Published: 12/11/2015

Mae adroddiad yn gofyn am atal Hawl tenantiaid i brynu tai syn eiddo i’r cyngor yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod dydd Mawrth, 17 Tachwedd. Rhwng 1980 a 2007 gwerthwyd tua 134,600 o dai cyngor yng Nghymru i denantiaid. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi colli 822 o dai cyngor ers 1996 i gynllun Hawl i Brynu ac mae gan y sir ddiffyg blynyddol o 246 o dai fforddiadwy Yn dilyn Pleidlais Tai 2012, pan bleidleisiodd y mwyafrif llethol o denantiaid cyngor i gadwr cyngor fel eu landlord, maer Cyngor wedi gweithio i foderneiddio ei wasanaeth tai a thros y chwe blynedd nesaf, bydd yn gwario £111 miliwn i sicrhau bod ei 7,200 o gartrefi Cyngor yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae ceisiadau cynllunio eisoes wedi’u cyflwyno ar gyfer datblygiadau tai cyngor a thai cymdeithasol ar yr hen safle Walks yn y Fflint a safle hen Ysgol Custom House Lane yng Nghei Connah fel rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) i adeiladu 500 o dai cyngor newydd (200) a (300) o dai fforddiadwy. Gallai tenantiaid presennol ar rhai a ddyrennir i eiddo newydd yn y dyfodol arfer eu Hawl i Brynu a byddai’r Cyngor yn colli’r cartrefi hyn a’r incwm rhent a gynhyrchir. Gallai hyn o bosibl ei gwneud yn ofynnol ir Cyngor adolygu ei weledigaeth ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru ar Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. O ystyried nad ywn sicr y bydd y ddeddfwriaeth i roi terfyn ar Hawl i Brynu’n cael ei chyflwyno yn dilyn etholiad Cynulliad Cymru’r flwyddyn nesaf, maer cyngor yn arfer yr opsiwn i’r holl awdurdodau lleol sy’n cadw stoc, fel Sir y Fflint, i wneud cais i Lywodraeth Cymru atal Hawl i Brynu yn ei ardal. Mae Cynghorau Abertawe a Sir Gaerfyrddin eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i weithredu’r opsiwn hwn. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Mae llawer o bobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu cartref, neu i rentu cartref gan landlord preifat yn yr hinsawdd ariannol bresennol, yn dibynnu ar dai cymdeithasol. “Maen hysbys i bawb fod yna brinder o dai fforddiadwy ledled Cymru a gweddill y DU. Mae pob eiddo y maer Cyngor yn ei werthu drwy Hawl i Brynu yn lleihau ein gallu i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol, felly byddai atal Hawl i Brynu yn Sir y Fflint yn synhwyrol, yn cael croeso ac mae’n bryd i hyn ddigwydd.” Pe bai Cabinet y cyngor yn cymeradwyor adroddiad, bydd ymgynghoriad cynhwysfawr yn dechrau ar unwaith âr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai, Ffederasiwn Tenantiaid Sir y Fflint a Chymdeithasau Tai lleol.