Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penodi Cadeirydd

Published: 12/11/2015

Maer Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Rheoli gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden, wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Consortiwm yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru (CLAW). Mae gan y Consortiwm aelodaeth o bob awdurdod lleol yng Nghymru a’i brif bwrpas yw cynnal yr arfer gorau o ran rheoli eiddo ac i stiwardio ystadau a safleoedd awdurdodau lleol, yn ogystal â darparu fforwm i gynghorau Cymru edrych ar ddylunio, adeiladu, a rheoli adeiladau. Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Maen anrhydedd mawr i mi gael fy ethol yn Gadeirydd y consortiwm Cymru gyfan hwn, syn chwarae rôl hanfodol i hyrwyddo dylunio da yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â darparu cyfleoedd effeithiol i gynghorau weithio gydai gilydd ledled y wlad. “Yn y digwyddiad gwobrwyo diweddar cefais bleser mawr yn cyflwyno gwobrau canmoliaeth prosiect y flwyddyn CLAW i Gyngor Sir Bro Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Fe wnaeth bob un or prosiectau eithriadol hyn ffurfio rhan o fentrau Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.” Fe wnaeth y Cynghorydd Jones hefyd gyflwyno gwobr Prosiect y Flwyddyn y Consortiwm i Gyngor Sir Ddinbych i gydnabod ei waith ar Ysgol Twm or Nant yn Ninbych. Derbyniodd Siôn Evans, Rheolwr Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw’r wobr ar ran y Cyngor. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Hoffwn longyfarch pawb a gyflwynodd prosiectau ar gyfer gwobrau eleni, gyda phob un ohonynt yn dangos cyflawniadau sylweddol wrth hyrwyddo prosiectau amgylcheddol o’r radd flaenaf ac a oedd yn dangos gwerth am arian.” Pennawd ar gyfer DSC 3176: Y Cadeirydd sy’n ymadael, y Cynghorydd Wyn Evans o Gaerfyrddin, yn cyflwyno cadwyn y swydd ir Cynghorydd Jones . Pennawd ar gyfer 20151110: Y Cynghorydd Jones gyda Sion Evans o Gyngor Sir Ddinbych