Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trwsior lôn gerbydau - yr A548 or Flint i Bagillt

Published: 18/11/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ymgymryd â’r gwaith o drwsio’r lôn gerbydau ar ffordd ddeuol yr A548 rhwng y goleuadau traffig ar yr A5119 a chroesfan Bagillt/Ystâd Ddiwydiannol Manor. I amharu cyn lleied â phosibl ar deithwyr, bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y nos rhwng 7pm a 5am, rhwng dydd Llun a dydd Mercher, fel a ganlyn: · Y ffordd ddeuol tua’r gogledd (i gyfeiriad Bagillt) - ar gau nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher 23, 24 a 25 Tachwedd rhwng 7pm a 5am. Caiff traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A5119 i Laneurgain, yr A55 i Dreffynnon, yr A5026 i Boot End, a’r A548 i Bagillt. · Y ffordd ddeuol tua’r de (i gyfeiriad y Fflint) - ar gau nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher , 30 Tachwedd ac 1 a 2 Rhagfyr rhwng 7pm a 5am. Caiff traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A548 i Bootend, yr A5026 i Dreffynnon, yr A55 i Laneurgain a’r A5119 i’r Fflint. Ni fydd mynediad i’r A548 yng nghyffordd ddeheuol Ystâd Ddiwydiannol Manor. Tra bydd y ffyrdd ar gau, bydd y system unffordd ym mhen gogleddol yr Ystâd Ddiwydiannol yn dod i ben dros dro a dyma fydd y ffordd i mewn ac allan o’r ystâd tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y bydd y gwaith yn ei achosi.