Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Chwaraeon Ieuenctid

Published: 27/05/2014

Daeth ysgolion o bob cwr o Sir y Fflint ynghyd i gymryd rhan yn yr Wyl Chwaraeon Ieuenctid eleni. Bu dros 2200 o blant o 64 o ysgolion yn cymryd rhan mewn 12 digwyddiad, mewn naw lleoliad gwahanol. Mae’r digwyddiad, a noddir gan Chwaraeon Cymru a’i harwain gan Chwaraeon Sir y Fflint, yn ei hwythfed blwyddyn a dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru. Mae rhan o’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant chwaraeon am ddim i blant mewn campau newydd a thraddodiadol, gan gynnwys pêl-fasged, codi hwyl, dawns stryd, unihoc, pêl-droed, pêl law, osgoi’r bêl, criced, athletau, pêl-fasged cadair olwyn, campau sgwter a badminton yn y misoedd yn arwain at y digwyddiad. Yn ogystal, mae’n rhoi cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn clybiau cymunedol lleol, gan eu hannog i ‘wirioni ar chwaraeon am oes’. Fe wnaeth Asda gefnogi’r digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Iau 15 Mai, fel rhan o’u Diwrnodau Chwaraeon Asda Active, dan arweiniad Sports Leaders UK a ddarparodd hyfforddwyr ac arweinwyr ifanc gwirfoddol. Hefyd, darparont luniaeth drwy gydol y diwrnod yn un o’r lleoliadau, sef Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Daeth llu o bobl i’r digwyddiad, roedd plant wedi manteisio ar yr hyfforddiant am ddim a chawsant ddiwrnod penigamp. Eleni, dyrannwyd gwledydd o’r Gymanwlad i bob ysgol er mwyn iddynt hyrwyddo Gemau’r Gymanwlad a’r gwaddol a ddaw i Sir y Fflint yn sgil y gemau a gynhelir yn Glasgow yng Ngorffennaf 2014. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli disgyblion i barhau i fwynhau chwaraeon.” Meddai Rheolwr Chwaraeon Cymru, Graham Williams: “Mae’n bleser mawr i Chwaraeon Cymru gefnogi Gwyl Chwaraeon Ieuenctid flynyddol Sir y Fflint unwaith eto. “Bob blwyddyn, mae’r wyl yn tyfu’n llwyddiannus, gan gyrraedd nifer cynyddol o bobl ifanc, gyda chyfleoedd newydd ym myd y campau, gan wneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgais, sef cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes.”