Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnydd ysgol Westwood wedi’i gydnabod

Published: 18/11/2015

Yn gynharach eleni, tynnwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood, Bwcle, oddi ar broses fonitro Estyn a’r Sir ar ôl pedair blynedd o her a newid dwys ac i gydnabod y llwyddiant sylweddol hwn, croesawodd yr ysgol Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Carl Sargeant AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy wrth iddynt ymweld âr ysgol. Mae gwelliannau o £450k i adeilad a thir yr ysgol yn cynnwys tair ystafell ddosbarth newydd, toiledau disgybl, staff ac anabl newydd, ystafell feddygol, ystafell staff newydd, ardal chwarae allan Cyfnod Sylfaen gyda wyneb newydd, gwell mannau mynediad ir adeilad a gwell mesurau diogelwch. Mae Ysgol Westwood hefyd yn rhannu arfer da yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 gydag ysgolion eraill, yn enwedig ansawdd yr adborth i ddisgyblion, safonau cyffredinol uchel o waith disgyblion a syniadau arloesol fel darparu oriorau i bob plentyn o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 i sicrhau bod pob plentyn yn gallu dweud yr amser. Meddai Carl Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy, “Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood wedi gwyrdroi ei hun dan Bennaeth, Dirprwy Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr cryf, gyda chymorth Cyngor Sir y Fflint. Maer ysgol a welwn heddiw yn cyflawnin dda ac, yn hanfodol, mae’r disgyblion mor hapus ac yn cymryd rhan lawn. Roedd yn bwysig ein bod yn dod i ddathlu’r gwaith caled syn cael ei wneud yma a gwn fod yr hyn a welodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi creu argraff fawr arno.” Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC: “Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood a gweld drosof fy hun sut y maer ysgol wedi gwyrdroi ei ffawd. Roeddwn yn hynod falch gyda’r gwelliannau y maer ysgol wedi eu gwneud i’w thir a chyfleusterau, gwelliannau na fyddai wedi bod yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad y Pennaeth, Mr Nicholson, ei gydweithwyr addysgu ar corff llywodraethu. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid: “Maer ysgol wedi gwneud cynnydd gwych yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwyn siwr bod ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad y staff addysgu a chefnogi ar corff llywodraethu yn sicrhau y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.” Dywedodd y Pennaeth, Rob Nicholson, “Rwyn hynod o falch o ba mor bell yr ydym wedi dod fel ysgol dros fy chwe blynedd fel Pennaeth. “Roedd yn fraint i groesawu Mr. Lewis a Mr. Sargeant wrth iddynt ymweld ân hysgol wych a hoffwn estyn gwahoddiad agored i unrhyw un sydd am ymweld âr ysgol i weld drostynt eu hunain pa mor bell yr ydym wedi dod a beth rydym yn ceisio ei gyflawni.” Nodyn i olygyddion Yn y llun atodedig mae (or chwith ir dde): Y Cyng. Neville Phillips, y Cyng. Ron Hampson, Clare Homard, Prif Swyddog Cynradd, Carl Sargeant AC, y Pennaeth Rob Nicholson, Cadeirydd y Llywodraethwyr Peter Shone, Huw Lewis AC, y Dirprwy Bennaeth Jayne Williams ar Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg