Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad cymorth Dementia

Published: 18/11/2015

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, fydd y siaradwr gwadd mewn digwyddiad a fydd yn arddangos gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yng nghartrefi gofal a chymunedau lleol Sir y Fflint i gynorthwyo pobl sy’n byw â dementia. Y Digwyddiad Arddangos Rhannu Arfer Gorau hwn a gynhelir yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah ddydd Gwener 27 Tachwedd fydd y cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yn Sir y Fflint. Bydd y digwyddiad yn dathlu a rhannu rhywfaint o’r gwaith diweddar a wnaethpwyd mewn cartrefi gofal ac yn tynnu sylw at y ffordd y gall cymorth drawsffurfio lles a safon byw unigolion â dementia yn ogystal â’r rheiny sy’n gofalu amdanynt. Yn y digwyddiad, bydd gwahanol ddarparwyr gwasanaeth yn arddangos y gwaith y maent wedi’i wneud mewn cartrefi gofal gyda ffotograffau, clipiau fideo, storïau a gwaith celf. Bydd cyflwyniadau’n cael eu rhoi gan gartrefi gofal a darparwyr hefyd. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n hynod falch o’r gwaith y mae Sir y Fflint yn ei wneud i gynorthwyo pobl â dementia a’u gofalwyr. Dyma gyfle i ni rannu’r gwaith da hwn ac rwyf wrth fy modd fod Comisiynydd Pobl Hyn Cymru’n gallu ymuno â ni yn y digwyddiad pwysig hwn. Nodyn i Olygyddion Cynhelir y digwyddiad hwn rhwng 10am a 1pm yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah ddydd Gwener 27 Tachwedd. Bydd cyfle i dynnu ffotograffau ar ddechrau’r digwyddiad.