Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch y Rhuban Gwyn

Published: 26/11/2015

Daeth aelodau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint ynghyd ar 25 Tachwedd i ddangos cefnogaeth i ddiwrnod rhyngwladol y Rhuban Gwyn, a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Tref y Rhuban Gwyn i Gynghorau, ac fel rhan o’i ymrwymiad i ddileu trais domestig, mae wedi cyflwyno polisi yn y gweithle gan ddatgan nad yw cam-drin domestig yn dderbyniol. Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Reoli Gwastraff, Strategaeth, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn yn frwd. Drwy hyrwyddo digwyddiadau fel hyn mae’r Cyngor yn atgyfnerthu’r neges bod trais a thrais domestig yn wrthun a bod yn rhaid ei atal.