Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdyn llyfrgell i bob plentyn

Published: 22/05/2014

Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru yn ymuno i gyflenwi pob plentyn ysgol gynradd â cherdyn llyfrgell am ddim - gan ddechrau gyda phlant 8/9 oed mewn chwe awdurdod lleol - Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys ac Abertawe. Wrth lansio’r fenter yn Llyfrgell Bwcle ar ddydd Mawrth 20 Mai dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg: “Cymerodd dros 42,000 o blant Cymru ran yn Sialens Ddarllen yr Haf y llynedd, a fu’n rhedeg mewn 245 o lyfrgelloedd ar draws y wlad. “Fe wnaeth y plant hynny a fu’n cymryd rhan gynnal neu wella’u lefelau darllen ac mae llyfrgelloedd ar draws Sir y Fflint yn gobeithio adeiladu ar hyn trwy roi cyfle i bob plentyn ddefnyddio’u llyfrgell i fenthyca llyfrau a chael at yr holl wasanaethau eraill sydd ar gael iddynt.” Fel hyrwyddwr y fenter newydd, dywedodd Dr Rhys Jones - sy’n fwyaf adnabyddus am ei gyfresi llwyddiannus iawn ar y BBC, yn cynnwys ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr Rhys Jones’s Wildlife Patrol’: “Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig - maen nhw’n lle gwych i blant adael i’w dychymyg dyfu a datblygu ac mae hi’n hanfodol bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy nid yn unig i wella’u lefelau llythrennedd ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd yn y dyfodol.” Mynychodd disgyblion Blwyddyn Pedwar o Ysgol Gynradd Drury lansiad y digwyddiad a gwnaeth eu hathro, Mr Jack Crompton y sylw: “Mae cael y plant allan o’r ysgol ac i mewn i’r llyfrgell, gan eu galluogi i ddewis eu llyfrau eu hunain a’u clywed yn trafod eu ffefrynnau, yn ardderchog. Ac os gallwn ni annog pob plentyn i ddefnyddio’r llyfrgell bydd yn sicr o gael effaith fuddiol ar sut y maen nhw’n perfformio yn yr ystafell ddosbarth hefyd.” Bydd y cerdyn llyfrgell hwn yn caniatáu i’r plant fenthyca llyfrau’n syth bin a chael bag pethau da am ddim i gario’u llyfrau adref â nhw. Unwaith y caiff prawf cyfeiriad ei ddarparu, gallant gael mynediad wedyn at filoedd o lyfrau am ddim yn ogystal â llawer mwy o adnoddau i helpu i wella’u gwaith ysgol a chyfoethogi eu hamser hamdden, yn cynnwys ffuglen, llyfrau ffeithiol, comics, nofelau graffig a llyfrau llafar am ddim; help am ddim gyda gwaith cartref – ar-lein ac yn y llyfrgell; defnydd cyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd am ddim ac e-lyfrau ac e-gylchgronau am ddim. Mae’r prosiect hwn yn cyfannu ymgyrch “Rho Amser i Ddarllen” Llywodraeth Cymru hefyd, gall dim ond 10 munud o ddarllen bob dydd wneud gwahaniaeth mawr. Bydd darllen llyfrau gartref yn eich helpu i fwynhau darllen ac i wneud yn well yn yr ysgol. I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools Capsiwn y llun: Plant o Ysgol Gynradd Drury gyda gwesteion o’r digwyddiad lansio.