Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Dulyn

Published: 02/12/2015

Mae Tystysgrifau syn cadarnhau ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i gytundeb cenedlaethol Datganiad Dulyn i greu cymuned cyfeillgar i oed i’w gweld yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Wrth i nifer y bobl syn byw yn hirach gynyddu, mae angen i gynghorau ystyried ffyrdd o sicrhau bod cymunedau yn cynnig ansawdd bywyd ar gyfer y boblogaeth hy n. Mae llofnodi Datganiad Dulyn gan y Cyngor ym mis Chwefror 2014 yn ychwanegu dimensiwn pwysig at y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws y Sir. Maer datganiad yn ddatganiad cyhoeddus o fwriad i weithio gyda sefydliadau eraill, rhannu profiadau, a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd cyfartal i bobl hyn. Mae arddangos y tystysgrifau yn nodi lansiad y cynllun Heneiddion Dda yn Sir y Fflint syn nodir gwaith a fydd yn cael ei wneud ar draws Sir y Fflint i gefnogi pobl hyn i gynnal eu lles au hannibyniaeth - i wneud Sir y Fflint yn lle da i dyfun hen. Maer cynllun wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i raglen ‘Heneiddio’n Dda yng Nghymru’ gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru, sydd yn nodi pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hyn yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn gallu aros yn iach ac yn weithgar a pharhau i gyfrannu at fywyd teuluol a chymunedol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae byw mewn cymuned syn sensitif i anghenion unigol yn rhywbeth yr ydym i gyd am ei brofi. Mae llofnodir cytundeb yn rhoir Cyngor ar lwyfan rhyngwladol a bydd yn darparu cadarnhad pellach o waith ymroddedig, parhaus. Bydd yn galluogir Cyngor i gymryd rhan mewn rhwydwaith cydgysylltiedig ledled Cymru a fydd yn gweithio i addasu canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd i gydfynd orau â chymunedau yng Nghymru.” I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Heneiddion Dda yng Nghymru, ewch i: http://www.ageingwellinwales.com/en/home or chwith ir dde y Cynghorydd Christine Jones, Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd y Cyngor Sir a Neil Ayling, Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymdeithasol.