Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Gwasanaeth Hir Gofalwyr Maeth 2015

Published: 07/12/2015

Mae tri deg naw o ofalwyr maeth wediu hanrhydeddu gan Gyngor Sir y Fflint am gyflawni carreg milltir maethu. O bum mlynedd i 25 mlynedd, cyflwynwyd y gwobrau gan Craig Macleod, Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Northop Hall ddydd Gwener 27 Tachwedd. Roedd Caroline a Rob Carding yn un o’r 25 gofalwr yn derbyn eu gwobr pum mlynedd: “Rydym wrth ein boddau, mae’n waith caled ond yn rhoi llawer o foddhad. Rydym wedi maethu chwech o blant ac mae’n braf teimlo ein bod wedi gwneud gwahaniaeth. Pan fyddwch yn gweld plentyn pan fyddant yn dod atoch yn gyntaf ac yn gwylio eu cynnydd ar newid, maent yn magu hyder a hunan-barch. Dyma’r peth gorau a wnaethom erioed, ac nid ydym erioed wedi edrych yn ôl.” Derbyniodd wyth o ofalwyr eu gwobr deng mlynedd, derbyniodd tri ohonynt wobr 15 mlynedd a derbyniodd un wobr 20 mlynedd. Derbyniodd Alice a Dave Oldfield eu gwobr ar gyfer 25 mlynedd o faethu. Cawsant MBE y llynedd am eu gwasanaeth i fyd maethu. Maent wedi maethu dros 125 o blant ers 1989 ac maent yn parhau i fod mewn cysylltiad â rhai. “Roedd yn hyfryd derbyn y wobr hon. Y darn gorau yw pan welwch y plant wedi tyfu i fyny, wedi derbyn swydd ac yn gwneud yn dda. Mae nifer o’r plant yn parhau i gadw mewn cysylltiad ac maent yn dod yn ôl i’n gweld ni gyda’u plant eu hunain. Dywedodd un dyn ifanc yr oeddem wedi’i faethu’n ddiweddar ‘Ni fyddwn yr hyn ydw i heboch chi, na i byth eich anghofio chi” Meddai Alice. “Nid ywn hawdd, ond prin ywr amseroedd caled ac maer cyfnodau da yn gwneud iawn am hynny. Mae rhai o’r plant hyn eisoes wedi gwneud penderfyniad ynglyn âu bywydau ond pan allwch chi eu hannog i ddilyn llwybr newydd, maen wobrwyol iawn. Ychwanegodd Dave. Diolchodd Craig Macleod ir gofalwyr maeth ar ran Cyngor Sir y Fflint ar plant y maent yn gofalu amdanynt Diolch i chi am eich ymrwymiad i blant a phobl ifanc, am agor eich drysau a gwneud gwahaniaeth. Am fod yno pan fo plant eich angen a gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a hapus. Am rannu eich bywyd, eich teulu a’ch ffrindiau, am roi eich calon ach enaid, am eu cefnogi trwy droeon yr yrfa, am fod yno ar eu cyfer a dangos eich bod yn malio amdanynt.” I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â bod yn ofalwr maeth, cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint ar 01352 702190 neu ewch i www.flintshirefostering.org.uk Capsiynau: 1. Gwobrau Gwasanaeth Hir Gofalwyr Maeth Blaen: Alice a Dave Oldfield yn derbyn eu gwobr 25 mlynedd. 2. Blaen: Caroline a Rob Carding (5 mlynedd) a Glen a Lesley Cowan (5 mlynedd) Cefn: Anita a Peter Butler (15 mlynedd) 3. Alice a Dave Oldfield yn derbyn eu gwobr 25 mlynedd.