Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bywyd newydd i hen Bencadlys y Llyfrgell

Published: 10/12/2015

Mae Banc Bwyd Sir y Fflint yn defnyddio hen Bencadlys y Llyfrgell ar y Campws Dinesig yn yr Wyddgrug fel canolfan i ddosbarthu nwyddau i’w chwe chanolfan yn y Sir. Mae’r elusen yn cael ei rentu’n rhad am 12 mis gan helpu’r Cyngor gyda’i strategaeth ad-drefnu gyffredinol drwy wneud defnydd o adeilad gwag y byddai’r Cyngor, fel arall, yn gorfod parhau i’w redeg a’i reoli. Symudodd llyfrgell gyfeirio’r sir o’r adeilad yn ddiweddar i’r llyfrgell yng nghanol y dref ac mae’r gwasanaethau ategol a oedd wedi’u lleoli yn yr adeilad hefyd wedi symud i safleoedd eraill. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: Mae hyn yn gyfle gwych i helpu Banc Bwyd Sir y Fflint gyda’u gwaith ardderchog ledled y sir gan hefyd sicrhau arbedion gwerthfawr i’r Cyngor ar adeg pan mae arian yn brin. Mae’n rhan o’n strategaeth i ad-drefnu’r modd y caiff adeiladau’r Cyngor eu defnyddio i weld a allwn weithredu mewn ffordd ratach a mwy effeithlon. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, Bernie Attridge: Rydym wedi bod yn gefnogol iawn i Fanc Bwyd Sir y Fflint erioed, ac rydym eisoes yn cynnig mannau penodol yn Neuadd y Sir i bobl adael rhoddion. Bydd y fenter ddiweddaraf hon, gobeithio, yn rhoi cymorth ychwanegol i ganiatáu iddynt barhau â’u gwaith gwerthfawr yn y gymuned”. Dywedodd y Gweinidog Andy Leake, Cadeirydd Banc Bwyd Sir y Fflint:” Rydym mor ddiolchgar i Gyngor Sir y Fflint am eu haelioni rhyfeddol a chaniatáu i Fanc Bwyd Sir y Fflint ddefnyddio adnawdd gwych fel hen adeilad Pencadlys y Llyfrgell. Mae’r Banc Bwyd yn gwasanaethu chwe chanolfan ledled Sir y Fflint ac mae wedi bwydo 18, 750 ers iddo agor yn 2012. Bob mis, bydd dros 500 yn cael help gan y Banc Bwyd, ac mae ein gwaith wedi ehangu. Cysylltwyd â’r Cyngor i ddweud bod angen adeilad newydd arnom, ac rydym wrth ein boddau ein bod yn awr yn agor yr adeilad hwn i helpu’r gymuned ac i leihau costau’r Cyngor lleol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn defnyddio’r adeilad i greu canolfan ranbarthol i Fanc Bwyd Sir y Fflint.”