Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pwll Nofio Cei Connah

Published: 10/12/2015

Bydd trefniadau ar gyfer Pwll Nofio Cei Connah yn y dyfodol yn cael eu hystyried gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Rhagfyr. Mae’r Panel Trosglwyddo Asedau Cymunedol, syn cynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint, wedi argymell y dylai trefniadau trosglwyddo asedau cymunedol fynd yn eu blaenau ar gyfer y cyfleuster ac y dylai Cambrian Aquatics, y sefydliad cymunedol dielw a sefydlwyd gan Glwb Nofio Cei Connah a Nofio Clwyd, redeg y Pwll. Ar gyfer y flwyddyn gyntaf, argymhellir y bydd y Cyngor Sir yn cyfrannu £65,000 at y costau rhedeg ynghyd ag un cyfraniad o gyllid cyfalaf gwerth £100,000. Bydd y cymorth ariannol hwn yn dibynnu ar y gwaith a gwblheir dros y misoedd nesaf gan Cambrian Aquatics a Chyngor Sir y Fflint er mwyn sicrhau y gellir trosglwyddo’r pwll yn ddiogel ac mewn ffordd syn gweithio yn y dyfodol rhagweladwy. Rhan allweddol o hyn fydd ymgysylltu a thrafod â staff i helpu i gadarnhau’r ffordd y bydd y pwll nofio’n gweithredu. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Hamdden: Credwn fod y cynnydd y mae Cambrian Aquatics wedii wneud mewn cyfnod cymharol fyr yn sylweddol sy’n rhoi hyder i’n galluogi i wneud yr argymhellion hyn ir Cabinet. Byddwn yn sicrhau bod y gwaith dros y misoedd nesaf yn rhoi’r cyfle gorau i’r pwll lwyddo yn y dyfodol .