Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fframwaith Gosod Tai Lleol

Published: 10/12/2015

Ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod i ystyried fframwaith i roi polisïau gosod tai lleol ar waith. Drwy ddatblygu polisïau gosod tai, mae’n haws cynllunio dyraniadau tai, yn enwedig mewn rhai cymdogaethau neu ardaloedd penodol, a hynny er mwyn diwallu anghenion lleol a helpu i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy. Fel landlord, nod y Cyngor yw cydbwyso anghenion ei holl denantiaid drwy geisio creu cymdogaethau diogel sy’n llefydd braf i fyw ynddynt, a lle mae cyfleoedd gwaith a chyfleusterau lleol. Yr ardaloedd cyntaf a gaiff eu hystyried o ran polisïau gosod tai lleol yw Cei Connah a’r Fflint lle mae tai cyngor yn cael eu datblygu ar hen safle Ysgol Custom House Lane a’r Walks. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai, “Gallai polisïau gosod tai lleol helpu’r Cyngor i ymateb yn effeithiol i broblemau tai lleol a gall hynny, yn ei dro, helpu i ddatblygu cymdogaethau bywiog i’n holl denantiaid. Mae’r datblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yng Nghei Connah a’r Fflint, sy’n cael eu hystyried gan yr adran gynllunio ar hyn o bryd, yn gyfle delfrydol i ni ddatblygu, llywio ac asesu ein fframwaith ar gyfer polisïau gosod tai lleol.