Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi Iach Pobl Iach

Published: 15/12/2015

Nod menter newydd Cyngor Sir y Fflint, ‘Cartrefi Iach Pobl Iach’, yw gwella’r ffordd y mae gwahanol sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, a defnyddio dull holistaidd o wella iechyd, lles a diogelwch trigolion sy’n byw mewn tai rhentu preifat drwy wella’u hamodau byw. Yn ddiweddar mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i dargedu tai sydd mewn cyflwr gwael yn ardal Cei Connah. Fel rhan o’r fenter hon ymwelwyd â dau eiddo, sef 341 a 343 Stryd Fawr, Cei Connah sef adeilad tri llawr a oedd wedi cael ei drosi’n wael i greu nifer o fflatiau. Yn ystod yr ymweliad gwelwyd nad oedd y system larwm tân yn gweithio, roedd y gwaith trydanol yn ddiffygiol ac yn beryglus ac nid oedd system wresogi sefydlog yn unrhyw un o’r fflatiau. Caewyd y fflatiau ar unwaith yn dilyn yr ymweliad oherwydd y perygl i ddiogelwch y tenantiaid a gafodd lety dros dro gan y Cyngor. Mae Swyddogion Tai yn cynorthwyo’r tenantiaid hyn i ddod o hyd i gartrefi eraill ar hyn o bryd. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae gan bobl sy’n byw mewn tai rhentu preifat hawl i ddisgwyl i’w tai fod yn ddiogel ac wedi’i wresogi’n briodol a bydd y fenter ‘Cartrefi Iach Pobl Iach’ yn helpu i ganolbwyntio egni pob partner i dargedu’r landlordiaid hynny sy’n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau i’w tenantiaid” O 23 Tachwedd 2015 ymlaen bydd deddfwriaeth newydd yng Nghymru yn mynnu fod pob landlord, asiant gosod a rheoli yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/ . Nod y drwydded newydd hon yw gwella’r ffordd y caiff eiddo rhent ei reoli yng Nghymru.