Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwrw ymlaen â chynllun tai Custom House

Published: 17/12/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen â’i gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai cymdeithasol, fforddiadwy newydd ar hyd a lled y sir, a bydd yn codi 12 o gartrefi newydd yng Nghei Connah. Mae hyn yn rhan o Raglen Tai ac Adnewyddu Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o gartrefi drwy Sir y Fflint yn ystod y pum mlynedd nesaf. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y cartrefi newydd cyntaf mewn cyfarfod pwyllgor ar 16 Rhagfyr, ar ôl i’r Cyngor penodi’r datblygwr cenedlaethol, Wates Living Space, yn bartner tai strategol yn gynharach eleni. Disgwylir i Wates Living Space ddechrau adeiladur cartrefi newydd ar safle hen Ysgol Custom House yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae prif egwyddorion y cynllun wedi’u seilio ar yr hen ysgol. Fel rhan or prosiect, mae Wates Living Space ar Cyngor wedi ymrwymo ar y cyd i greu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi drwy raglen SHARP ac y caiff 20 o gyfleoedd eu creu i brentisiaid lleol. Cymerodd Wates Living Space a Chyngor Sir y Fflint ran yn Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn ddiweddar i ymgysylltu â BBaCh a mentrau cymdeithasol lleol. Ymhlith yr ymdrechion a wnaed i ennyn diddordeb cyflenwyr lleol fu’r digwyddiad ‘Cyfarfod â’r Prynwr’ i isgontractwyr lleol, ac mae pecynnau gwaith gwerth £40 miliwn i’w dyrannu i gwmnïau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Bydd Rhaglen SHARP yn rhoi blaenoriaethau’r Cyngor ar waith gan godai tai Cyngor a thai fforddiadwy newydd i bobl Sir y Fflint. Ar ei gilydd bydd yn darparu 500 o gartrefi newydd yn y sir, a bydd hyn hefyd yn arwain at gynlluniau adnewyddu a buddion cymunedol, yn ogystal â chyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynllun yn datblygu’n gyson nes bydd y preswylwyr cyntaf yn cael eu goriadau.” Dywedodd y Cyng Helen Brown, Aelod y Cabinet dros Dai: Mae’r datblygiad ar hen safle Ysgol Custom House yn nodi dechrau cyfnod cyffrous iawn yn hanes y Cyngor wrth iddo wireddu hen uchelgais i ddarparu tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy o safon, y mae eu dirfawr angen ar hyd a lled y Sir ac rwy’n falch iawn y bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir” Meddai Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr adran Cartrefi Wates Living Space: “Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru. Drwy arloesi mewn cynlluniau buddsoddi mor uchelgeisiol y maes tai, mae’r Cyngor yn dangos arweiniad yn y modd y gellir datrys problemau prinder tai. “Fel partner tai Cyngor Sir y Fflint yn rhaglen SHARP, mae Wates Living Space iwedi ymrwymo’n llawn i sicrhau y bydd y cynllun adfywio hwn yn mynd ymhellach na dim ond codi tai ac y bydd yn rhoi hwb i gyflogaeth a hyfforddiant. Mae ein tîm wrthi’n gweithio gyda’r Cyngor i ennyn diddordeb busnesau lleol yn y rhaglen ac, yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau bod yr economi a’r gymuned leol yn elwa’n barhaus o’r buddsoddiad.” Mae cynigion SHARP wedi’u seilio ar safon Tai Sir y Fflint, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r tenantiaid. Mae cynllun a manylebau’r tai newydd wedi’u seilio ar y safon hon a bydd yn sicrhau cysondeb ac ansawdd o ran y modd y bydd y tai’n edrych ar y tu allan a’r tu mewn, a hefyd o ran arbed ynni a sicrhau bod digon o le i barcio. Nodyn i olygyddion Wates Living Space Wates Living Space, rhan o Grwp Cymru, yw un o’r prif ddarparwyr tai a gwaith cynnal a chadw yn y DU. Mae’n gweithredu ar hyd y lled y DU gan ganolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn eu cymunedau lleol i adeiladu rhagor o dai ac i wella’r tai presennol drwy gynllunio gwaith cynnal a chadw ac ymateb i anghenion. Sefydlwyd Grwp Cymru dros 118 o flynyddoedd yn ôl, mae’n cyflogi dros 2,400 ac roedd ei drosiant y llynedd dros £1biliwn. Grwp Cymru oedd y contractiwr cyntaf i ennill Marc Cymuned Busnes yn y Gymuned, ac yn 2013 enillodd y Wobr Busnes Genedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth Gorfforaethol drwy ddangos arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn buddsoddiad cymunedol.