Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn lansio dwy Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu newydd

Published: 22/12/2015

Yn dilyn llwyddiant y Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, Y Fflint a Chei Connah, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod dwy Ganolfan newydd wedi agor ym Mwcle a’r Wyddgrug. Ymunodd cyd Gynghorwyr Sir â Maerau’r ddwy dref â’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, i agor y Canolfannau’n swyddogol ddydd Llun 21 Rhagfyr. Gyda phwyslais ar wasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf mewn lleoliadau hygyrch yng nghanol y trefi, mae Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yr Wyddgrug wedi’i lleoli yn Llyfrgell yr Wyddgrug ar Sgwâr Daniel Owen ac mae Canolfan Bwcle ar lawr cyntaf Llyfrgell Bwcle yn y Ganolfan Siopa. Gall cwsmeriaid gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau allweddol yn y Cyngor Sir gan gynnwys tai, Gwasanaethau Stryd, budd-daliadau a chyngor lles, Bathodynnau Glas, Cardiau Teithio Rhatach a’r Dreth Gyngor. Mae’r ddwy ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am tan 5pm a gall ymgynghorwyr helpu ag ymholiadau sy’n ymwneud â’r uchod ac unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â’r Cyngor. Mae mynediad ar gael at TG a hefyd ardal ar wahân lle gall gwsmeriaid drafod eu hymholiadau’n breifat ag Ymgynhghorydd. Meddai’r Cynghorydd Shotton: “Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ymestyn a gwella mynediad cwsmeriaid at wasanaethau’r cyngor, felly er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd presennol rwy’n eithriadol o falch ein bod heddiw wedi agor dwy Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu newydd yn swyddogol ym Mwcle a’r Wyddgrug, sy’n dod â mynediad at wasanaethau’r cyngor yn agosach i’r bobl yn y ddwy dref mewn amgylchedd modern a chroesawgar.” Nodyn i Olygyddion Yn y ffotograffau atodedig gwelir y Cynghorydd Aaron Shotton yn agoriadau swyddogol Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu Bwcle a’r Wyddgrug.