Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Achubwch y twyni!

Published: 23/12/2015

Ailgylchwch eich hen goeden Nadolig gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint eleni, a chyfrannu at y gwaith o adfer cynefin twyni tywod pwysig. Maer Ceidwaid yn gofyn am goed Nadolig go iawn dros bedair troedfedd o daldra, yn un darn a heb addurniadau, i gael eu rhoi ar ôl cyfnod y Nadolig. Gall trigolion fynd âu coed i Barc Gwepra yng Nghei Connah, lle bydd ardal yn cael ei dynodi yn y prif faes parcio, neur maes parcio ger canolfan weithgareddau Pentre Peryglon, Heol yr Orsaf, Talacre, rhwng dydd Mawrth 5 a dydd Mercher 13 Ionawr 2016. Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre: “Mae siâp a gwead coed Nadolig yn eu gwneud y deunydd delfrydol i ddal tywod a chwythir gan y gwynt, sydd wedyn yn dechrau yn dechrau ffurfio twyni newydd. Byddwn yn cynnal llawer o waith adfer y flwyddyn nesaf, ac felly yn gofyn i gymaint o goed ag y bo modd gael eu rhoi. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae hon yn fenter wych, gan ddefnyddio coed Nadolig sydd dros ben i warchod ein hamgylchedd naturiol a gwella amddiffynfeydd llifogydd. Rwyn siwr y bydd y cymunedau lleol yn mynd ati i gefnogir cynllun unwaith eto fel y maent wedi wneud mor dda yn y gorffennol.” “Dros y 17 mlynedd diwethaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ai bartneriaid wedi sefydlogi’r twyni trwy ddal gwynt yn y tywod a gosod ffensys i leihau difrod ir cyn dwyni sensitif. Roedd cynlluniau maeth traeth gan beirianwyr Cyngor Sir a oedd wedi dod â thywod wedi’i garthu i’r traeth i adeiladu’r cyn dwyni amddiffynfeydd llifogydd credadwy.” Bydd ceidwaid, gwirfoddolwyr a grwpiau o fyfyrwyr yn gosod yr holl goed a gasglwyd yn y Flwyddyn Newydd.