Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio Ysgolion

Published: 24/12/2015

Ar 6 Ionawr bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Cyngor Sir yn ystyried yr ymatebion niferus a gafwyd i’r ymgynghoriad statudol diweddar ynglyn â’r cynigion i gau Ysgol Maes Edwin, ac Ysgol Llanfynydd. Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, dechreuodd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 21 Hydref a daeth i ben ar 2 Rhagfyr. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl adborth gan ddisgyblion, rhieni, gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn ddiweddarach ym mis Ionawr i Gabinet y Cyngor. Os bydd y Cabinet yn penderfynu mynd ymlaen â’r cynigion, bydd raid iddynt gael eu cyhoeddi drwy gyfrwng Hysbysiad Statudol. Cynhyrchodd y Cyngor Sir ddogfen ymgynghori yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor ac a anfonwyd at fudd-ddeiliaid. Cynhyrchwyd fersiwn ategol o’r ddogfen ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd wedi’i hysgrifennu a’i chyflwyno mewn dull arbennig i’w galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses ymgynghori. Yr opsiynau a ystyriwyd oedd: cadw pethau fel ag y maent, ffedereiddio neu gau. Gallai’r ymgyngoreion roi sylwadau drwy holiadur ar-lein neu drwy lenwi ffurflen ar gefn y ddogfen ymgynghori a hefyd drwy e-bost neu lythyr yn y cyfarfodydd ymgynghori. Er nad oedd yn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru, cynhaliodd swyddogion y Cyngor gyfarfodydd â llywodraethwyr, athrawon a staff cymorth a rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i roi cyfle i bobl holi cwestiynau a rhoi sylwadau pellach. Mae’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu yn cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymateb i bob un o’r materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel y mae’n cael ei ddarparu yn yr ymateb ymgynghori) o rinweddau cyffredinol y cynnig. Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor Sir yn ymgymryd â rhaglen foderneiddio addysg heriol. Mae am ddarparu’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr er mwyn cyflawni eu llawn botensial mewn ysgolion sy’n addas i’r diben a darparu addysg o’r radd flaenaf yn y 21ain ganrif. Rhaid i’r Cyngor ofalu fod ei rwydwaith ysgolion yn diwallu anghenion addysgol nawr ac yn y dyfodol a bod darpariaeth addysgol o safon uchel, cynaliadwy yn cael ei darparu mewn gwell adeiladau a diwallu’r angen i ddarparu’r nifer gywir o leoedd ysgol yn y lleoliadau cywir. Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd gwneud dim byd yn arwain at gymarebau disgyblion athrawon uwch ym mhob ysgol wrth i gyllid refeniw ostwng.”