Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgleiriwch yn y Nos; Byddwch yn Weladwy; Byddwch yn Ddiogel

Published: 05/01/2016

Fe atgoffir cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ei bod yn bwysig bod modd i yrwyr eu gweld, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn. Er bod rhai o ffyrdd mwyaf diogel y byd yn y DU,* yn anffodus, cafodd 249 o gerddwyr a 138 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn 2014**. Y cyngor gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru yw bod angen i bawb chwarae eu rhan i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Gydar ffasiwn ar gyfer dillad tywyll a du, gallai pethau syml fel cario bag plastig gwyn wneud byd o wahaniaeth i welededd pobl. Mae hefyd modd prynu bandiau braich, ategolion bag ac esgidiau plant sydd â goleuadau syn fflachio. Gall ffonau symudol a dyfeisiau electronig eraill dynnu sylw pawb sy’n defnyddio’r ffordd, serch hynny mae gan ffôn symudol ei ddyfais diogelwch ei hun ynddo. Mae cario ffôn fel y gall gyrwyr weld y sgrin oleuedig yn ffordd hawdd o helpu modurwyr i weld defnyddwyr eraill y ffordd yn y tywyllwch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd sydd wedi’u goleuon wael. Mae gwisgo neu gario deunyddiau fflwroleuol yn ystod y dydd a deunyddiau adlewyrchol yn y nos yn ddewis hefyd, ac mae llawer o fanwerthwyr bellach yn gwerthu eitemau fel hyn yn eithaf rhad. Mae goleuadau beic yn rhad iw prynu, ac maent yn fwy disglair nag erioed, ac mae llawer o ategolion beicio bellach yn cynnwys stribedi adlewyrchol sy’n ymateb i oleuadau car. Mae Rheolaur Ffordd Fawr yn glir, os ydych chi’n beicio fin nos, maen rhaid i chi osod golau gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn. Mae’n rhaid i chi gael adlewyrchydd coch ar y cefn ac adlewyrchyddion oren ar y pedalau. Bydd adlewyrchyddion blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar y sbôcs yn eich helpu i gael eich gweld hefyd. Mae hefyd angen i yrwyr chwarae eu rhan drwy gadw golwg ar y ffordd a rhagweld peryglon posibl. Gyrrwch ar gyflymder syn eich galluogi i stopio o fewn y pellter y gallwch ei weld sy’n glir, a dylech roi digon o le i feicwyr a cherddwyr wrth basio os nad oes llwybr troed. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae gan bawb sy’n defnyddio’r ffordd yr hawl i wneud hynny, ond mae ganddynt gyfrifoldeb dros rannu’r lle ar y ffordd yn ddiogel. Sicrhewch fod modd i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd eich gweld, ac mae hyn yn hanfodol yn ystod adeg yma’r flwyddyn pan mae’r golau’n wael a gall gwelededd newid mewn eiliadau oherwydd y tywydd.” * Llywodraeth y DU https://www.gov.uk/government/policies/road-safety ** Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru Diogelwch ar y Ffyrdd 2014 a gyhoeddwyd 9 Medi, 2015. https://www.gov.uk/government/policies/road-safety Nodiadau i Olygyddion: I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.diogelwchffyrddcymru.org.uk