Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dee Wilfowlers
Published: 23/05/2014
Mae bron 100 o fagiau o sbwriel wedi’u casglu fel rhan o ymgyrch i dacluso
ardal leol.
Bu 35 o wirfoddolwyr o grwp Dee Wildfowlers yn casglu llanast oddi ar dir ger y
bont newydd dros afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint.
Alex Williams, aelod o’r Dee Wildfowlers drefnodd yr ymgyrch gyda chymorth
Mike Taylor; llwyddwyd i gasglu dau lond trelar o wastraff, yn bennaf o’r
blaendraeth a’r ymylon. Plastig oedd y rhan fwyaf o’r sbwriel, a hwnnw wedi’i
olchi i’r lan gan lanw’r gaeaf ond roedd hefyd yn cynnwys gweddillion carafán,
haearn sgrap a hen deiars ceir.
Dywedodd Alex Williams o Dee Wildfowlers: “Hwn oedd y trydydd ymgyrch mawr i
dacluso’r ardal dros y 12 mis diwethaf ac mae tunelli o sbwriel wedi’u clirio
oddi ar dros tua un cilometr sgwâr. Byddai ymwelwyr â’r ardal yn cael trafferth
cael hyd i ddarn o sbwriel yn awr. Mae’r cyfan yn gynefin glân o laswelltir a
choedwig lle gall planhigion ac anifeiliaid ffynnu.”
“Mae’n wych meddwl bod ymgyrchoedd tebyg ar y gweill ar hyd aber afon Dyfrdwy
yn ystod Wythnos Cadw Cymru’n Daclus; a throi’r aber cyfan yn dir glân a braf.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Mae’n braf gweld pobl yn gwirfoddoli i helpu’r ardal leol. Hoffwn ddiolch i
bawb a roddodd o’u hamser er budd ymwelwyr ac i helpu’r amgylchfyd.”
Pennawd: Gwirfoddolwyr o grwp Dee Wildfowlers gydar sbwriel a gasglwyd ger y
bont newydd dros afon Dyfrdwy.