Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio Ysgolion

Published: 14/01/2016

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr ymatebion niferus a gafwyd i’r ymgynghoriad statudol diweddar ar y cynigion i gau Ysgol Maes Edwin, Mynydd y Fflint ac Ysgol Llanfynydd pan fydd yn cyfarfod ar 19 Ionawr. Bydd y Cynghorwyr yn ystyried yr holl adborth i’r ymgynghoriad gan ddisgyblion, rhieni, gofalwyr, athrawon, llywodraethwyr a’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu Addysg ac Ieuenctid. Os bydd y Cabinet yn penderfynu cau’r ysgol, bydd raid i’r cynnig gael ei gyhoeddi ar ffurf Hysbysiad Statudol pan fydd cyfnod o 28 diwrnod yn cael ei roi i bobl wrthwynebu. Yna caiff adroddiad pellach ei roi i’r Cabinet a fydd yn dod i benderfyniad terfynol yn y gwanwyn. Yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol, dechreuodd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 21 Hydref a daeth i ben ar 2 Rhagfyr. Cynhyrchodd y Cyngor Sir ddogfen ymgynghori yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor ac a anfonwyd i fudd-ddeiliaid. Cynhyrchwyd fersiwn ategol o’r ddogfen ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd wedi’i hysgrifennu a’i chyflwyno mewn ffordd arbennig i’w galluogi i ddeall a chymryd rhan yn y broses ymgynghori. Yr opsiynau dan ystyriaeth oedd: cadw’r sefyllfa bresennol, ffedereiddio neu gau’r ysgol, Roedd modd i ymgyngoreion roi sylwadau drwy holiadur ar-lein neu drwy lenwi ffurflen ar gefn y ddogfen ymgynghori a hefyd drwy e-bost neu lythyr ac yn y cyfarfodydd ymgynghori. Cynhaliodd swyddogion y Cyngor gyfarfodydd â llywodraethwyr, athrawon a staff cymorth a rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid i roi cyfle i bobl holi cwestiynau a rhoi sylwadau pellach, er nad yw hynny’n orfodol yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad i’r Cabinet yn cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymateb i bob un o’r materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel y mae’n cael ei ddarparu yn ei ymateb ymgynghori) o rinweddau cyffredinol y cynigion. Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor Sir yn ymgymryd â rhaglen moderneiddio ysgolion heriol. Mae am ddarparu’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr i gyflawni eu llawn botensial mewn ysgolion sy’n addas i’r diben a darparu addysg o’r radd flaenaf yn y 21ain Ganrif. Rhaid i’r Cyngor sicrhau fod ei rwydwaith o ysgolion yn diwallu anghenion addysgol nawr ac yn y dyfodol a bod y ddarpariaeth addysg o safon uchel, yn gynaliadwy, yn digwydd mewn gwell adeiladau ac yn diwallu’r angen i ddarparu’r nifer gywir o leoedd mewn ysgolion yn y lleoliadau cywir.” Meddai Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid: “Mae’r Cyngor yn cydnabod fod gwneud dim yn mynd i arwain at gymarebau disgyblion athrawon uwch ym mhob ysgol wrth i gyllid refeniw ostwng. Mewn cyfnod o gyni fel hyn lle ceir toriadau digyffelyb yng nghyllid y llywodraeth ganolog, nid yw’r cyllid gennym bellach i sybsideiddio ysgolion sydd â nifer fach o ddisgyblion.”