Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gostyngiadaur Dreth Gyngor

Published: 14/01/2016

Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor blynyddol yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr. Mae’r cynllun yn rhoi gostyngiad i deuluoedd ar incwm isel i’w helpu i dalu eu biliau Treth Gyngor. Mae’n gynllun cenedlaethol a Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r prif reoliadau er bod gan y Cyngor rhywfaint o bwerau i wneud penderfyniadau. Mae’r Cyngor yn cynnig parhau i ddefnyddio’r un disgresiynau â nodwyd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sef: - Parhau i ddiystyru pensiynau anabledd rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel fel incwm. - Peidio â chynyddu’r cyfnod talu estynedig i fwy na phedair wythnos pan fydd ymgeisydd yn dechrau gweithio. - Parhau â’r darpariaethau safonol i roi tri mis o ostyngiad wedi’i ôl- ddyddio os bydd gan bensiynwyr reswm da dros beidio â’i hawlio ynghynt. t. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Ni fydd y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn newid felly bydd y rhai sy’n hawlio gostyngiad yn gyfarwydd â’r buddion sydd i’w cael o dan y cynllun. Er nad yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw arian ychwanegol i ariannur elfennau dewisol, rydw in falch o ddweud bod Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Sir y Fflint ar gyfer 2016-2017 o blaid parhau i ddiystyru pob pensiwn anabledd rhyfel a phensiwn gweddwon rhyfel fel incwm.