Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae darpariaeth i Bobl Ifanc Sir y Fflint eisiau eich barn!

Published: 19/01/2021

IYP.jpgMae Darpariaeth Integredig i Bobl Ifanc Sir y Fflint yn cynllunio sut fydd gwasanaethau yn edrych ar ôl i’r cyfnodau clo lacio a thu hwnt at 2024.

Rydym eisiau cadw’r pethau sydd wedi gweithio ac felly datblygu mwy o wasanaethau ar-lein ac o bell. Rydym hefyd eisiau bod ar gael mewn llefydd y mae pobl ifanc eisoes yn ymweld â nhw, ac ail-ddechrau clybiau ieuenctid pan fo angen a phan fo’n ddiogel gwneud hynny.

Rydym eisiau clywed eich barn. Rhannwch eich barn yn yr arolwg dienw byr hwn - mae’n cymryd tua 5 munud i’w gwblhau.  Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 12 Chwefror 2021.

Dolenni arolwg ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed: Fersiwn Gymraeg.

Dolenni arolwg i Gynghorwyr, rhieni/gofalwyr unigolion ifanc 11-25 oed, gwasanaeth partner sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac eraill: Fersiwn Gymraeg.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Darpariaeth Integredig i Bobl Ifanc - YouthServices@flintshire.gov.uk, 01352 704032.