Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd yn A550 Cylchfan Penymynydd 

Published: 26/01/2021

roadworks_SMALL.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei sicrhau i ymgymryd â'r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd yn A550 Cylchfan Penymynydd gan ddechrau ddydd Llun 1 Chwefror am oddeutu pythefnos (yn dibynnu ar y tywydd). 

Defnyddir mesurau rheoli traffig dros dro ar yr A550 Cylchfan Penymynydd ac yn ystod cyfnodau amrywiol o’r cynllun a bydd angen cau'r ffordd wrth fynedfeydd/allanfeydd y gylchfan ar A5118 ac A5104 Ffordd Caer a bydd arwyddion yn dangos y gwyriadau a roddir mewn lle. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Breedon Southern Limited yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.