Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu gwobr menter gymdeithasol

Published: 01/02/2021

Social Enterprise UK small.jpgMae Sir y Fflint wedi cael gwobr glodfawr Lleoedd Menter Gymdeithasol gan Social Enterprise UK. (SEUK).

Mae’r wobr yn cydnabod nifer, ansawdd ac ystod gweithgarwch menter gymdeithasol o fewn ardal ddaearyddol. 

Mae grwp budd-ddeiliad o fentrau cymdeithasol ledled Sir y Fflint wedi treulio blwyddyn, gyda chefnogaeth gan Mike Dodd, Swyddog Menter Gymdeithasol y Cyngor, yn paratoi’r cais. Roedd hyn yn golygu adolygiad o weithgarwch menter gymdeithasol ledled y sir yn ogystal â datblygu strategaeth menter gymdeithasol yn Sir y Fflint, a chafodd hyn ei feirniadu gan banel o arbenigwyr menter gymdeithasol yn SEUK.

Mae Sir y Fflint bellach yn rhan o rwydwaith o 32 Lle Menter Gymdeithasol yn genedlaethol. Bydd hyn yn caniatáu i fentrau cymdeithasol o Sir y Fflint gael cyfle i rannu sgiliau, profiadau a rhwydweithio gyda sefydliadau tebyg ledled y wlad.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r cyfraniad mae menter gymdeithasol yn ei wneud i economi Sir y Fflint. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i fenter gymdeithasol - mae hyn i’w weld trwy ein prosiectau niferus gan gynnwys Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol, ble mae adeiladau awdurdod lleol, megis canolfannau cymunedol, wedi eu trosglwyddo i berchnogaeth y gymuned. Mae Modelau Cyflawni Amgen yn sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd trwy berchnogaeth gymunedol.

“Rydym hefyd yn cyflogi Swyddog Datblygu Menter Gymdeithasol llawn amser, sy’n darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad busnes am ddim i breswylwyr Sir y Fflint sydd eisiau sefydlu mentrau cymdeithasol.

“Yn fwy diweddar rydym wedi cyflogi Swyddog Effaith Cymdeithasol sy'n gyfrifol am sicrhau y ceir yr effaith cymdeithasol mwyaf o bob contract mae’r awdurdod yn ei roi. 

“Mae sicrhau achrediad Lleoedd Menter Gymdeithasol trwy Social Enterprise UK yn cadarnhau beth rydym bob amser wedi ei wybod ac rydym yn falch iawn ohono, mae gennym economi Menter Gymdeithasol sy’n ffynnu yn Sir y Fflint.

“Yn ystod y sefyllfa Covid yn ddiweddar, mae mentrau cymdeithasol yn Sir y Fflint wedi camu i fyny i gefnogi rhai o aelodau mwyaf unig yn y gymuned.” 

Dywedodd Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn:

“Rwyf wrth fy modd o glywed fod Sir y Fflint wedi cael ‘Gwobr Lleoedd Menter Gymdeithasol’ - sy’n cydnabod y gwaith gwych a wneir gan ein mentrau cymdeithasol lleol, o ran cyfoethogi cymunedau Sir y Fflint a gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.  Mae’r busnesau hyn wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn Sir y Fflint, yn mynd i’r afael â phroblemau lleol, cymdeithasol ac amgylcheddol, felly mae’n wych eu gweld yn cael y gydnabyddiaeth hon.”

Dywedodd Sue Oliver, Cyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol RainbowBiz:

“Fel menter gymdeithasol falch yn Sir y Fflint rydym wrth ein boddau o glywed y newyddion fod Sir y Fflint wedi ei gydnabod fel Lle Menter Gymdeithasol yn genedlaethol.  Mae gan Sir y Fflint ystod wych o fentrau oll yn gwneud eu gwaith anhygoel eu hunain yn ystod yr amseroedd hynod anodd hyn. Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol RainbowBiz wedi parhau i gysylltu â phawb a gefnogant mewn nifer o ffyrdd gwahanol trwy gydol y pandemig.  Rydym hefyd wedi helpu’r bobl hynny i sefydlu cyfeillgarwch newydd a chysylltu ar-lein ble na allant wneud hynny o'r blaen.  Mae hyn wedi arwain at grwpiau wythnosol yn cyfarfod o ledled y byd, yn rhannu eu teimladau a llawer o chwerthin hefyd."