Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parhewch i gadw at y rheolau - Atal y Lledaeniad 

Published: 08/02/2021

NWRF.JPGAnogir cymunedau ledled gogledd Cymru i atal y lledaeniad a helpu i gadw'r rhanbarth yn ddiogel.

Wrth i amrywiolion newydd, mwy heintus o Covid-19 gael eu nodi, mae bwrdd iechyd y rhanbarth, y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol wedi dod at ei gilydd i wneud apêl gyhoeddus i bawb gadw at y rheolau a helpu i atal y lledaeniad. 

Mewn fideo newydd a ryddhawyd yr wythnos hon, mae tri o bobl yn rhannu eu profiadau personol o effaith Covid-19 ar eu bywydau.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Os bydd pobl yn anwybyddu'r rheolau ac yn gwneud fel y mynnant, bydd y feirws yn parhau i ledaenu. Bydd mwy o bobl o bob oed yn mynd yn sâl, gan roi mwy o bwysau ar ysbytai, ambiwlansys a gwasanaethau cyhoeddus. 

"Ar ran y sefydliadau partner yng ngogledd Cymru, rwy'n annog yr holl breswylwyr i barhau â'u hymdrechion, cadw at y rheolau a helpu i atal y lledaeniad." 

Mae nifer yr achosion o Covid-19 yn lleihau'n araf yng ngogledd Cymru, ond mae amrywiolion newydd yn cylchredeg ac os na fyddwn yn cymryd gofal ychwanegol, byddant yn parhau i ledaenu.  

Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn adrodd am fwy o achosion lle mae aelwydydd cyfan bellach yn dal Covid-19, ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bod o leiaf 16 o bobl dan 40 oed wedi bod angen gofal critigol yn ysbytai gogledd Cymru hyd yma.  Gall Covid-19 effeithio ar unrhyw grwp oedran. 

Mae'r neges yn glir - cadwch at y rheolau a helpwch i atal y lledaeniad.

Mae'n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn aros gartref, yn cwrdd â'r bobl rydym yn byw gyda nhw yn unig, yn aros o leiaf ddau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, yn golchi ein dwylo'n rheolaidd, ac yn gweithio gartref os gallwn.  Gwisgwch orchudd wyneb lle bo angen, neu lle na allwch gynnal pellter cymdeithasol.

Os ydych chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu symptomau fel peswch, twymyn neu newid o ran blasu ac arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf am ddim yn cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.