Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb 

Published: 10/02/2021

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn i wneud argymhellion terfynol ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2021/22.

Mae Sir y Fflint wedi gwneud £100 miliwn o arbedion dros y ddegawd ddiwethaf i wneud y cyngor mor effeithlon â phosibl ac i warchod gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau niweidiol i’r gyllideb. Eleni, mae’r cyngor yn bwriadu cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cadw i fyny gyda graddfa a chymhlethdod y galw ar gyfer gwasanaethau.

Mae’r cyngor yn glir nad yw cynnydd blynyddol o 5% neu fwy yn Nhreth y Cyngor yn dderbyniol bellach. Yn unol â hynny, eleni mae’r cyngor yn bwriadu cadw’r cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor o dan 4%. Bydd hyn yn gyfystyr â chynnydd wythnosol ar eiddo Band D o oddeutu £1.00 yr wythnos.

Mae Sir y Fflint, fel pob cyngor, yn dibynnu’n fawr ar Lywodraethau i gyllido’r gwasanaethau cyhoeddus yn iawn ar ôl blynyddoedd o galedi a thoriadau yn y sector cyhoeddus ar lefel genedlaethol. Bydd y setliad arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 yn helpu’r Cyngor i gydbwyso ei gyllideb ond prin yw’n ddigonol ar gyfer ei anghenion.

Fel yr adroddir yn aml, nid yw arbedion effeithlonrwydd newydd ar raddfa fawr yn bosibl. Fodd bynnag, trwy rheolaeth ariannol darbodus, mae’r Cyngor wedi gallu gwneud arbedion effeithlonrwydd pellach o bron i £2.0 miliwn er mwyn cynorthwyo i gydbwyso’r gyllideb.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Uchelgais y Cyngor yw cynyddu’r swm o gyllid rydym yn ei ddyrannu i ysgolion, ac yn arbennig ysgolion uwchradd gan fod eu cyllidebau o dan bwysau mawr, ac ar yr un pryd, ceisio cadw cynnydd yn Nhreth y Cyngor i lefel fforddiadwy. 

“Ein safbwynt hir-sefydledig yw bod angen i’r Llywodraethau sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cyllido yn ddigonol. Rhaid i Lywodraethau sicrhau y gall awdurdodau lleol fod yn gadarn. Ac mae hynny’n arbennig o wir rwan, yng nghanol sefyllfa argyfyngus estynedig. 

“Cydnabyddwn a gwerthfawrogwn ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gyllido llywodraeth leol trwy’r sefyllfa argyfyngus trwy’r Gronfa Galedi a’r Gronfa Colli Incwm. Rydym angen y cymorth ariannol i barhau i mewn i 2021/22 gan fod yr argyfwng yn dal i fodoli.”

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:

“Er gwaethaf heriau’r sefyllfa argyfyngus barhaus, mae’r cyngor wedi gallu cyflwyno cyllideb gytbwys. Eleni bydd y cyngor yn gwneud buddsoddiad sylweddol i ysgolion gyda chynnydd o 3.6% ar y llynedd. 

“Rydym yn gyngor cyllid isel sy’n gwneud defnydd effeithlon o’n hadnoddau yn ôl ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.”

Meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Colin Everett:

“Rydym wedi cymryd dull darbodus a chytbwys i’n cyllideb flynyddol, yn ôl gofyniad y gyfraith ac egwyddorion llywodraethu da, wrth ddiogelu blaenoriaethau’r Cyngor. Mae hwn yn gyllideb cytbwys iawn. Mae ein holl wasanaethau rheng-flaen wedi cael eu diogelu.

“Mae nifer o risgiau agored yn parhau i gael eu rheoli, ac eto byddwn yn cael ein herio i gydbwyso ein cyllideb yn ystod y flwyddyn trwy gydol 2021/22. Mae ein henw da am fyw o fewn ein gallu unwaith i ni osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn yn un cryf.”