Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20

Published: 10/02/2021

Cyflwynir Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn y cyfarfod ddydd Mawrth 16 Chwefror.

Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd ym mis Ebrill 2016. Pwrpas yr amcanion cydraddoldeb yw mynd i’r afael â’r materion a’r meysydd o anghydraddoldeb mwyaf difrifol sy’n wynebu pobl â nodweddion a ddiogelir e.e. oedran, anabledd ac ati. 

Llwyddwyd i fodloni rhai o’n dyletswyddau cydraddoldeb yn ystod 2019/20, gan gynnwys: 

  • Interniaethau gyda chefnogaeth ar gyfer naw oedolyn ifanc ag anableddau dysgu drwy’r prosiect SEARCH
  • Mae Theatr Clwyd wedi cynyddu mynediad at gelfyddydau ar gyfer pobl â nodweddion a ddiogelir. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys eu gwaith â “Sorted”, y tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc, i gynnig sesiynau creadigol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Fe wnaethant hefyd weithio â City of Sanctuary i gynnal sesiwn greadigol i ffoaduriaid ifanc a’u teuluoedd. 
  • Mae’r gwasanaeth Ieuenctid wedi datblygu grwp ieuenctid i gefnogi pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol (LGBT). 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Daeth y Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol i ben ym mis Mawrth 2020. Mae’r Cynllun newydd ar gyfer 2020/24 bellach ar waith. Mae’r anghydraddoldebau a amlygwyd gan effaith Covid-19 ac Mae Bywydau Du o Bwys wedi pwysleisio pwysigrwydd Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol o ran nodi a mynd i’r afael â meysydd arbennig o anghydraddoldebau. 

Cynigir bod y grwp Cydraddoldeb Corfforaethol blaenorol yn ailymgynnull, gyda Phrif Swyddog yn cadeirio, yn yr un modd â Rhwydwaith y Gymraeg.  Mae Rhwydwaith y Gymraeg wedi gwneud cynnydd sylweddol yn gweithredu’r iaith Gymraeg ar draws y Cyngor.  Bydd grwp Cydraddoldeb Corfforaethol yn cyfrannu at sicrhau bod dull arbennig a chydweithredol ar waith ar draws y Cyngor i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, mynd i’r afael â materion a godir gan Lywodraeth Cymru ac, yn y pen draw, lleihau anghydraddoldebau.