Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd

Published: 21/01/2016

Daeth Mrs Gaynor Jones o’r Wyddgrug a Mrs Lucille Ingman o Goed-llai, a gafodd eu cynnwys yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, i Neuadd y Sir, yr Wyddgrug yn ddiweddar lle cawsant eu llongyfarch gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ray Hughes. Rhoddwyd MBE i Mrs Jones am ei gwaith gwirfoddol ym myd golff a’i hymdrechion i ddatblygu golff i ferched yng Nghymru. Cafodd Mrs Ingman MBE fel cydnabyddiaeth am ei gwasanaeth i’r gymuned ac i elusennau. Pennawd: O’r chwith i’r dde: Cymar y Cadeirydd, Mrs Gwenda Hughes, Mrs Gaynor Jones, y Cynghorydd Hughes, Mrs Ingman a’r Prif Weithredwr, Colin Everett