Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dychweliad i'r ysgol

Published: 11/02/2021

Ar hyn o bryd y cyfarwyddyd i ysgolion Sir y Fflint yw y dylent baratoi ar gyfer ailagor darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar 22 Chwefror.  Mae hyn yn cyd-fynd â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â rhai dysgwyr yn ôl i’r ysgol tra bod cyfyngiadau eraill y cyfnod clo yn dal yn eu lle. 

Mae’r Cyngor yn monitro’r cyfraddau achosion a phrofion positif yn ddyddiol, ac yn disgwyl i’r ddau barhau i ddisgyn yn raddol dros yr wythnosau nesaf.  Fodd bynnag pe bai’r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn dechrau peri pryder eto cyn 22 Chwefror yna bydd y penderfyniad i ailagor yr ysgolion ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael ei adolygu.