Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Atal Ffioedd Parcio Meysydd Parcio Canol Trefi

Published: 11/03/2021

Parking small.jpgBydd gofyn i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo estyniad i'r cynllun i beidio â chodi am barcio ym meysydd parcio canol trefi Sir y Fflint tan 30 Mehefin 2021, pan fyddant yn cyfarfod ar 16 Mawrth.

Rhoddodd y Cyngor y gorau i godi am barcio ym mhob maes parcio talu ac arddangos o 25 Mawrth 2020 ymlaen, ac yn dilyn y penderfyniad i ganiatáu i siopau dianghenraid ailagor ar 22 Mehefin, penderfynwyd ymestyn y cynllun parcio am ddim tan 31 Awst, ac eto tan 31 Rhagfyr.

Cynigir nawr y dylid ymestyn y cynllun tan 30 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint:

“Unwaith eto, rydw i’n croesawu’r cynnig a’i fwriad i gefnogi gwaith ar draws y Cyngor i ailagor canol trefi ac annog siopwyr ac ymwelwyr i ddychwelyd a chefnogi busnesau lleol. Bydd y cynllun hwn yn cynnig parcio am ddim wrth i ganol trefi ddechrau croesawu siopwyr yn eu holau, a bydd yn help i gynyddu’r nifer o siopwyr fydd yn ymweld â chanol trefi.”

Argymhellir y dylai meysydd parcio arhosiad byr barhau i gael eu rheoli drwy ofyn i yrwyr ddangos tocyn Talu ac Arddangos dilys yn ffenestr y cerbyd er mwyn sicrhau nad yw cerbydau’n aros yn rhy hir yn y gofodau parcio agosaf at ganol trefi, a bydd yr holl gyfyngiadau eraill, megis gorfod arddangos bathodyn glas wrth barcio mewn gofod parcio i bobl anabl, yn dal yn berthnasol. 

Mae’r golled ariannol yn sgil peidio â chodi am barcio yn cael effaith uniongyrchol ar gyllideb y Cyngor, ac mae meysydd parcio yn parhau i achosi costau i’r Cyngor e.e. costau cynnal a chadw, goleuadau stryd, a chyfraddau busnes sy’n cael eu talu i’r Llywodraeth, hyd yn oed pan na chodir tâl. Bydd yr incwm ffioedd parcio a gollir yn parhau i gael ei gynnwys yn hawliadau Covid-19 y Cyngor. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

“Cyn inni ailgyflwyno ffioedd parcio, y bydd angen inni ei wneud rywbryd, o bosibl, gan ein bod yn colli incwm a bod angen rheoli llefydd, hoffem edrych ar ddulliau talu digyffwrdd. Archwilir dulliau eraill, megis talu ar y ffôn neu ddefnyddio cardiau digyffwrdd, a chyflwynir adroddiad i’r Cabinet ei ystyried."