Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Brecwast ysgol am ddim i ddisgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim

Published: 07/04/2021

Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno cynllun i gynnig brecwast/byrbryd ganol bore am ddim i fyfyrwyr Blwyddyn 7 sydd â hawl i brydau ysgol am ddim pan fydd ysgolion yn ailagor ar ôl gwyliau’r Pasg ar 12 Ebrill.

Bwriad y cynllun yma ydi sicrhau bod plant yn dechrau’r diwrnod gyda phryd o fwyd maethlon, gan olygu bod ganddynt ddigon o arian i brynu cinio sylweddol.

Yn ddelfrydol, dylai’r lwfans gael ei wario cyn cychwyn y diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore. Serch hynny, gall gweithredu ‘cyfnodau gwario’ penodol ar systemau heb arian fod yn heriol. Felly, gellir gwario’r lwfans ychwanegol yn ystod egwyl cinio, gyda’r ysgolion yn annog disgyblion i’w ddefnyddio cyn dechrau’r diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore. Yn debyg i’r lwfans arferol ar gyfer prydau ysgol am ddim, ni fydd unrhyw lwfans sydd heb ei wario yn cael ei gario drosodd i’r diwrnod canlynol.

Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan bartner arlwyo’r Cyngor, Arlwyo a Glanhau Newydd Cyf. Bydd yr eitemau brecwast a fydd yn cael eu hannog cyn dechrau’r diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore yn cynnwys grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau neu iogwrt.