Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau i Gylchfan Queensferry

Published: 26/01/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer cynllun i wella Cylchfan Queensferry a’r Gyffordd Signal gyfagos ger Asda, ar hyn o bryd mae oedi hir yn y ddau le ystod cyfnodau prysur. Cynigir bod y gwaith yn cael ei wneud rhwng Chwefror ac Ebrill a bydd yn cynnwys: . Lledu ffyrdd ymuno ac ymadael o’r A494 hyd at gylchfan Queensferry. . Lledu cylchfan Queensferry er mwyn creu lonydd rhedeg ychwanegol. . Ailfodelu cyffordd y B5129 a’r B5441 yn ASDA. . Gosod signalau ar bob ffordd sy’n ymuno â chylchfan Queensferry . Uwchraddio a chysylltu pob un o’r signalau traffig cyfredol a newydd. Mae’r Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac unrhyw anghyfleustra y bydd y gwaith yn ei achosi a bydd yn hysbysu’r cyhoedd o fanylion y trefniadau rheoli traffig yn ystod amrywiol gamau’r cynllun. Bydd mynediad i fusnesau ac eiddo yn ardal y gwaith yn parhau tra bo’r gwaith yn cael ei wneud. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogir cais. Bydd oedi yn ystod y gwaith yn anochel, ond rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd fod yn amyneddgar tra bo’r gwaith yn cael ei wneud.” Disgwylir y bydd y ffyrdd ymuno ac ymadael o’r A494 i Gylchfan Queensferry ar gau am gyfnodau yn ystod y gwaith er mwyn hwyluso’r gwaith lledu a gosod signalau. Bydd goleuadau traffig dros dro a chyfyngiadau yn eu lle, ac er bod camau’n cael eu cymryd i mwyn osgoi aflonyddwch, disgwylir y bydd oedi. Cynhelir ail sesiwn galw heibio ar 28 Ionawr yn Sefydliad Cofeb Rhyfel Queensferry rhwng 1.00pm a 6.30pm pan fydd y cynlluniau ar gael i’w gweld a bydd swyddogion y Cyngor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gan aelodau o’r cyhoedd neu fusnesau lleol ynghylch y gwaith.