Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais am gyllid wedi’i gyflwyno ar gyfer archif

Published: 20/04/2021

NEWA archives.pngMae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru’n falch o gyhoeddi bod cais wedi’i gyflwyno i dderbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Mae’r gwasanaeth ar y cyd rhwng gwasanaethau archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cyflwyno cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i helpu i adeiladu canolfan archifau newydd bwrpasol, y drws nesaf i Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug. 

Bydd yr adeilad PassivHaus yn cynnwys lle arddangos ar gyfer arddangosfeydd sydd wedi’u creu ar y cyd, lle i ddysgu ar gyfer gweithgareddau creadigol, labordy digidol ac ystafelloedd ymchwil ar wahân i ymchwilwyr ac archwilwyr.  Bydd yno stiwdio gadwraeth o’r radd flaenaf, ardaloedd i drin casgliadau ac ardaloedd storio, a fydd i gyd yn cyd-fynd â safonau’r diwydiant.

Mae’r cais hefyd yn cynnwys darpariaeth i ddatblygu ystod o weithgareddau cyffrous a fydd yn dod â’r archifau’n fyw trwy ddrama, cerddoriaeth, dawns ac ysgrifennu creadigol. Bydd y gweithgareddau hyn yn galluogi i gyfoeth o dreftadaeth ddogfennol Gogledd Ddwyrain Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a’u hysbrydoli. 

Byddwn yn gwybod beth yw canlyniad y cais erbyn mis Gorffennaf.