Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


System Atodlen Briodas

Published: 05/05/2021

Mae Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint yn chwarae ei ran i foderneiddio cofrestru sifil.

Ar 4 Mai 2021 daeth diwygiadau i Ddeddf Priodasau 1949 i rym ac am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1837 ni fydd y gofrestr briodasau yn gofnod cyfreithiol ar gyfer priodasau sifil yng Nghymru a Lloegr. Mae’r gofrestr briodasau wedi’i disodli ac mae modd i gyplau rwan lofnodi atodlen briodas. 

Meddai Gareth Owens, Prif Swyddog Llywodraethu:

“Dyma’r newid mwyaf arwyddocaol i gofrestru sifil ers 1837 ac mae’r Gwasanaeth Cofrestru yn falch o fod yn rhan o’r newid cyffrous yma.  

“Bydd y cofrestrydd yn gyfrifol am yr atodlen briodas newydd ac ar ôl seremoni’r briodas bydd yn cofnodi’r manylion ar system electronig, gan greu cofnod cyfreithiol ac argraffu'r tystysgrifau. Bydd y gofrestr electronig yn ddiogel, yn fwy effeithlon ar gyfer cadw cofnodion priodas ac yn caniatáu cynnwys manylion y fam ar y cofnod yn hytrach na manylion y tad yn unig.”

Bydd cyplau sydd wedi cyflwyno Rhybudd o Briodas ar gyfer seremonïau priodas ar ôl 4 Mai 2021 yn gallu dewis cynnwys manylion pedwar rhiant ar yr atodlen. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru ar gael i helpu cyplau cyn y seremoni.