Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


SEREN ‘BRITAIN’S GOT TALENT’ YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY’N DATHLU GOFALWYR MAETH AWDURDODAU LLEOL LEDLED CYMRU

Published: 10/05/2021

Nathan Wyburn 5 (1).jpegMae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, am ddenu sylw at waith gofalwyr maeth Cyngor Sir y Fflint,, wrth i Theatr Clwyd hefyd gael ei oleuo’n oren y Pythefnos Gofal Maeth hwn.

Cafodd llawer ohonom gefnogaeth ein teuluoedd a’n chyfeillion i’n cefnogi yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf, ond mae ar rai plant a phobl ifanc ar draws Cymru angen mwy o’r gefnogaeth hynny nag erioed o’r blaen. 

Nawr, ar gychwyn Pythefnos Gofal Maeth – ymgyrch hybu ymwybyddiaeth a recriwtio cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu (The Fostering Network) – mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i fwy o bobl yn Sir y Fflint i ystyried maethu.

Gyda thema eleni ‘#WhyWeCare’, mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi llunio darn yn defnyddio goleuadau LED i helpu i ddangos sut gall unrhyw dy fod yn gartref diogel, llawn cariad.

Meddai Nathan, anfonwyd cerdd ataf yn trafod yr holl bethau mae gofalwyr maeth yn eu gwneud wrth ddarparu dyfodol mwy llewyrchus i blant ledled Cymru ac roeddwn am greu rhywbeth sy’n dathlu’r modd maent yn agor drysau eu cartrefi a’u calonnau.

“Dewisais drosi’r geiriau hynny yn gelf gyda darn sy’n arddangos y cartref fel y golau gwirioneddol ym mhen draw’r twnnel ar gyfer plant a phobl ifanc. 

“Dwi’n credu taw un o’r mythau mwyaf am faethu yw bod rhaid cael ty mawr a gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – nid yw hynny’n wir.”

Ceir fideo treigl amser yn dangos y darn yn dod at ei gilydd gyda’r gerdd fel tros haen yn dangos sut mae cyd-destun y darn yn aneglur, “Ond pan gaiff y goleuadau eu cynnau ceir eglurder,” ychwanega Nathan. 

“Mae ymdeimlad o bosibilrwydd a phositifrwydd yn eglur!”

FCF2021-Home.pngNawr gofynnir i bobl ar draws Sir y Fflint ddangos eu cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth trwy osod lamp yn eu ffenestr blaen ddydd iau nesaf (20 Mai) i ‘daflu goleuni’ ar y gwaith a gyflawnir gan ofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac i ddathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ar draws Cymru, gan gynnwys Theatr Clwyd hefyd wedi’u goleuo’n oren i gydnabod y gwaith anhygoel a gyflawnir.

Meddai y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chefnogwr Gofalwyr Cyngor Sir y Fflint:

“Mae gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc sy’n methu byw gyda’u teuluoedd genedigol.

“Er bod nifer ohonom wedi bod yn anhapus am dreulio mwyafrif o’r llynedd wedi’n caethiwo yn ein cartrefi, ar gyfer rhai pobl ifanc gallant ond breuddwydio am gael ymdeimlad o ddiogelwch, diogeledd a chysur mae cartref yn ei roi. Gall ymddangos yn rhywbeth sydd allan o’u cyrraedd i rai plant a phobl ifanc.”

Mae angen cannoedd o deuluoedd maethu newydd bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfer plant o bob oedran, ac yn benodol grwpiau o frodyr neu/a chwiorydd, plant hyn a phobl ifanc a phlant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches. 

“Ceir nifer o gamdybiaethau ynghylch maethu.” ychwanegodd y Cynghorydd Jones.

“Er enghraifft, mae rhai pobl yn credu bod angen i chi fod mewn perthynas neu’n briod – neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun – ond nid yw hynny’n wir. 

“Un o’r pethau am faethu yw nad yw am newid y plant, mae’n golygu gadael iddynt fod eu hunain a’u helpu i ddarganfod pwy ydynt er mwyn ffynnu. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dwyn profiadau bywyd a gwaith amrywiol i’r rôl.

“Bydd gan nifer o bobl yn Sir y Fflint ystafelloedd sbâr a allai fod yn lloches, gan drawsnewid bywyd plant a sicrhau eu bod yn ffynnu.”

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu cynnwys ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol Pythefnos Gofal Maethu i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Os credwch y gallwch wneud gwahaniaeth trwy fod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint, ewch i https://www.flintshirefostering.org.uk/cy/Home.aspx.