Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sêl Cist Car Love Lane yn ail-agor

Published: 11/05/2021

Car boot sale small.jpgBydd y sêl cist car a gynhelir ym Maes Parcio Love Lane, Yr Wyddgrug, yn agor eto ddydd Sul 30 Mai rhwng 6am ac 1pm. Yna, byddant yn parhau bob dydd Sul trwy gydol y flwyddyn.  Codir tâl o £6 ar geir / £10 ar faniau. Nid oes angen archebu, gallwch droi i fyny ar y diwrnod.  Bydd lle diheintio dwylo ar y safle ac arwyddion cadw pellter cymdeithasol wedi’u gosod.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Peter Hayes, Uwch Swyddog Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint yn peter.hayes@flintshire.gov.uk neu ar 07919 166279.