Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion 

Published: 13/05/2021

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint i gymeradwyo’r rhaglen cynnal a chadw ac atgyweirio ysgolion ychwanegol pan fyddant yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant cyfalaf cynhaliaeth ac atgyweirio ysgolion ychwanegol o £2.526,501 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae’r grant hwn yn ychwanegol at raglen gyfalaf flynyddol y Cyngor ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw sydd oddeutu £1.8miliwn y flwyddyn ac yn cynnwys blaenoriaethau a nodwyd fel cynlluniau ailwampio toiledau ysgolion, toeau a bwyleri sy’n hanfodol i gadw ysgolion yn gynnes ac yn sych a hefyd cefnogi lles disgyblion. Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu i ni gynnal mwy o brosiectau eleni, a fydd rwy’n siwr yn cael ei groesawu gan ein hysgolion.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y dyraniad o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i ni wneud cynnydd sylweddol yn ein rhaglen cynnal a chadw.  Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, bydd cymunedau ysgolion ar draws y sir yn cael budd o’r adnodd ychwanegol hwn.

“Bydd cynnwys dau brosiect ar gyfer Ysgol Castell Alun, Yr Hôb yn cyfannu’r prif raglen fuddsoddi a ariannwyd gan y Cyngor, sydd eisoes ar y gweill. Bydd disodli’r Llain Pob Tywydd presennol ac ailwampio’r ardal gerdd yn cwblhau’r ystod o welliannau a drefnwyd ar gyfer yr ysgol a gwella darpariaeth o rannau pwysig o’r cwricwlwm, fel Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth.”   

Roedd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg a Ieuenctid hefyd yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol.

“Drwy’r cyllid ychwanegol hwn, rydym yn gallu cynnal nifer sylweddol o brosiectau allweddol mewn 15 o ysgolion y sir a lledaenu’r gwelliannau ar draws y sector cynradd ac uwchradd. Mae Penaethiaid a chyrff llywodraethu yn gweithio’n galed iawn i gynnal a chadw adeiladau eu hysgolion ond mae gwelliannau sylweddol yn gyfrifoldeb y Cyngor. Mae’r arian ychwanegol hwn i’w groesawu’n fawr ac yn caniatáu i ni gyflymu ein buddsoddiad mewn prif waith atgyweirio a chynnal a chadw.”

Y rhestr o ysgolion i fanteisio yw: 

• Ysgol Bentref Yr Eglwys yng Nghymru Penarlâg

• Ysgol Gynradd Gymunedol Gronant

• Ysgol Gynradd Gymunedol Penarlâg

• Ysgol Gynradd Gwernymynydd

• Ysgol Gynradd Gatholig Sant Winefride

• Ysgol Gynradd Gymunedol Sychdyn

• Ysgol Gynradd Gymunedol Brynffordd

• Ysgol Glanrafon

• Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood

• Ysgol Gynradd Saltney Ferry

• Ysgol Gynradd Wirfoddol y Santes Fair 

• Ysgol Uwchradd Penarlâg

• Ysgol Alun, Yr Wyddgrug

• Ysgol Uwchradd Cei Connah

• Castell Alun