Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sicrhau cyflenwad o fwynau agreg yng ngogledd ddwyrain Cymru 

Published: 13/05/2021

Mae Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol (SSRC) yn drefniant, a gytunwyd ym Medi 2020 rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i reoli a sicrhau cyflenwad o fwynau agreg ar draws gogledd ddwyrain Cymru.

Bydd yr SSRC hefyd yn ffurfio rhan o sail tystiolaeth ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint, sydd ar gam Archwiliad Cyhoeddus ar hyn o bryd. Bydd yr SSRC yn darparu sicrwydd ac eglurder i’r Arolygwyr sy’n asesu’r CDLl, bod y targedau ar gyfer echdynnu mwynau a nodir yn y cynllun a’r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn cael eu bodloni.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Lle nad all awdurdodau lleol yng ngogledd ddwyrain Cymru fodloni eu hymrwymiadau cynllunio strategol ar gyfer cyflenwi mwynau agreg, rhaid iddynt gydweithio i sicrhau cyflenwad o’r mwynau hynny. 

“Bydd yr SSRC yn cael ei ddefnyddio i gefnogi polisïau CDLl a datblygu penderfyniadau rheoli mewn perthynas â chyflenwad o fwynau agreg yng ngogledd ddwyrain Cymru.

“Mae’r SSRC hefyd yn dangos ein bod ni a’n hawdurdodau partner yn gwbl ymrwymedig i sicrhau cyflenwad cyson o fwynau agreg, megis tywod, graean a cherrig mân, sydd mor bwysig i’n diwydiant adeiladu ac isadeiledd y sir.”

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gefnogi’r addasiadau i’r SSRC, yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth, 18 Mai.