Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwneud cais am Fathodyn Glas

Published: 11/05/2021

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi diweddaru ei wybodaeth ynghylch Bathodynnau Glas ar ei wefan yn ddiweddar.

Mae Bathodynnau Glas am ddim ac yn caniatáu i bobl gydag anawsterau symudedd difrifol neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu symudedd, barcio’n agosach i’w cyrchfan.  Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas fel gyrrwr, teithiwr neu sefydliad.  Maent fel arfer yn ddilys am uchafswm o 3 blynedd.

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas, neu ei adnewyddu ar-lein ar GOV.UK.  Os ydych chi’n adnewyddu eich bathodyn (nid chaiff hyn ei wneud yn awtomatig) cwblhewch ffurflen newydd ar-lein, 6 wythnos o leiaf cyn i'ch bathodyn cyfredol ddod i ben.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe: Bathodynnau Glas