Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Beth welwch chi yn Sir y Fflint?

Published: 21/05/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â’r cwmni lleol Outwrite PR i hyrwyddo busnesau lleol wrth i’r cyfyngiadau Covid lacio’n raddol.

Bu’r flwyddyn aeth heibio’n eithriadol o anodd i bawb, ond yn enwedig felly i fusnesau canol trefi, cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a’r sector lletygarwch a thwristiaeth yn gyffredinol.

Mae gennym fusnesau lleol ardderchog yn Sir y Fflint ac mae llawer ohonynt eisoes wedi bod yn diolch i gymunedau am eu cefnogaeth dros y deuddeg mis diwethaf. Maent hefyd yn awyddus i annog pobl i ddal ati i gefnogi’r economi leol.

I gael gwybod beth sydd ar gael – boed yn enwau adnabyddus y stryd fawr neu’n siopau bach y mae’n rhaid chwilio amdanynt –

Instagram.JPGdilynwch ni ar Instagram @explore_flintshire

 

 

 

 

Facebook.JPGa Facebook @exploreflintshire

 

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!