Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Ffordd

Published: 27/05/2021

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gynnal gwaith gwella ar Gyffyrdd Abermorddu a Hollybush yr A541.

Fel rhan o'r gwaith gwella hwn, hoffem roi gwybod ichi am y gwaith ail-wynebu ar hyd yr A541, Ffordd Wrecsam, o Gyffordd Abermorddu hyd at ffin Sir y Fflint/Wrecsam. Bydd y gwaith yn cychwyn nos Sadwrn, 5 Mehefin ac yn parhau tan fore Llun, 14 Mehefin. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i gwblhau'r gwaith hwn ynghynt.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y ffordd sy'n arwain drwy Gefn y Bedd, ar gau i bob traffig rhwng 19:00 a 06:00, ond bydd mynediad i eiddo a libartau o fewn yr ardal fydd ar gau yn parhau drwy gydol y gwaith.

Mae'r bwriad i gau'r ffordd wedi cael ei gyhoeddi yn y wasg leol ac mae arwyddion rhybudd wedi'u harddangos ar bob pen i'r ardal dan sylw. Bydd arwyddion gwyriad yn cael eu gosod hefyd a gofynnwn yn garedig ichi gadw at y rhain.

Hoffem eich sicrhau y bydd y contractwyr yn glynu wrth y canllawiau COVID 19 cyfredol, a gofynnwn i'r cyhoedd barchu'r rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a pheidio â dod yn agos at y gweithlu.