Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant ysgol Bwcle yn claddu capsiwl amser i ddathlu cwblhau ehangu cartref gofal Marleyfield House

Published: 10/06/2021

CCS_9757.jpgMae disgyblion Ysgol Gynradd Drury wedi claddu capsiwl amser, sy'n rhoi cipolwg cyfoethog o fywyd yn 2021, i nodi cwblhau estyniad mawr i gartref gofal Marleyfield House gan Willmott Dixon.

Mae’r prosiect ailddatblygu gwerth £8.4 miliwn, ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, yn dyblu’r nifer o welyau ym Marleyfield House o 32 i 64 ac yn ychwanegu at y gofod awyr agored cymunedol a hygyrchedd i gefnogi lles preswylwyr.

Mae plant ysgol o Flynyddoedd 3 a 4 yn Ysgol Gynradd Drury, tîm Willmott Dixon a phreswylwyr a staff ym Marleyfield House i gyd wedi cyfrannu eitemau ac atgofion gan gynnwys lluniau, cerddi a chollage enfawr o 'fywyd yn y cyfnod clo' wedi ei greu gan ddisgyblion, sy'n cyfleu Bwcle yn 2021.

Mewn seremoni arbennig yng ngardd y cartref gofal fe adroddodd disgyblion eu cerddi, oedd yn cyfleu eu teimladau a'u profiadau drwy gydol heriau unigryw y flwyddyn ddiwethaf, a hynny i gynulleidfa yn cynnwys preswylwyr a staff Marleyfield House.

Yna gosododd tîm Willmott Dixon y capsiwl yn ei le, a bydd yn aros yma yn ddarn o hanes i'w agor gan genedlaethau'r dyfodol ym Mwcle. 

Dywedodd Maxine Roscoe, Athrawes Blwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Gynradd Drury: “Roedd y plant wrth eu bodd o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Maent wedi ysgrifennu cerddi gwych ac wedi cydweithio gyda’i gilydd i greu collage dosbarth rhagorol yn adlewyrchu eu profiadau cadarnhaol a negyddol o'r cyfnod clo, yn cynnwys sawl enfys, pyllau padlo yn yr ardd a dynion eira!  

“Drwy lygaid diniwed plentyn, nid oedd hi mor ddrwg â hynny gan fod cyfle i chwarae, pobi, gwneud crefftau a bod adref gyda’r teulu trwy'r dydd bob dydd. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr.”

Mae ehangu Marleyfield House yn enghraifft o ymagwedd ragweithiol Cyngor Sir y Fflint i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol presennol a'r breuder yn y sector gofal ar draws y sir.

Bydd gan bob ystafell ym Marleyfield House ofod awyr agored personol un ai trwy falconi ar y llawr cyntaf neu batio ar y llawr gwaelod, tra bydd yr estyniad hefyd yn golygu creu ardaloedd cymunedol newydd, cyfleusterau meddygol, swyddfeydd ac ystafelloedd storio, cyfleusterau parcio ceir estynedig a thirlunio sensitif ar raddfa eang.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones: “Am ddigwyddiad gwych – roedd mor hyfryd i weld y plant a chlywed y farddoniaeth roeddent wedi ei hysgrifennu, yn ogystal â chyfarfod preswylwyr a dod ynghyd i gladdu'r capsiwl amser hwn.

“Mae gennym ni boblogaeth sy’n heneiddio gydag anghenion sy’n gynyddol gymhleth, er gwaethaf mwy o bwyslais ar helpu pobl i fyw gartref am gyfnod hwy, mae'n iawn hefyd ein bod yn cynyddu capasiti’r cartref gofal.

“Mae’r cyfleuster hwn o’r radd flaenaf yn ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaethau. Rwy’n falch fod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.”

Gan gwblhau’r prosiect, a gafodd ei gaffael drwy fframwaith Scape, ar amser ac o fewn y gyllideb, fe barhaodd Willmott Dixon i weithio yng nghanol heriau pandemig byd-eang gan ddefnyddio arferion gweithio diogel arloesol i sicrhau diogelwch pawb ar y safle, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.

Dywedodd Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr i Willmott Dixon yn y Gogledd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o gyflawni prosiect mor bwysig gan greu cartref modern, croesawgar ac o ansawdd uchel i breswylwyr. 

“Rydym yn diolch i holl breswylwyr a staff Marleyfield House ac yn arbennig disgyblion Ysgol Gynradd Drury a helpodd ni i ddal y foment hon mewn hanes ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ym Mwcle. 

“Rydym yn falch o ddweud fod hwn yn brosiect cymunedol a grëwyd gan bobl Sir y Fflint ar gyfer pobl Sir y Fflint ac rydym wedi buddsoddi dros £4.8m o wariant y prosiect gyda busnesau yn yr ardal leol.”