Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdded a beicio yn Sir y Fflint – dewch i ddweud eich dweud!

Published: 07/06/2021

cycle image.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgynghoriad teithio llesol ar-lein i gael barn pobl am lwybrau teithio llesol yn y Sir.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi ble y gellid gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio yn y Sir.  

Y bwriad yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio yn Sir y Fflint, gan annog y rheiny nad ydynt yn teithio fel hyn i ddechrau gwneud hynny trwy wneud gwelliannau i lwybrau presennol a chyflwyno llwybrau newydd i gysylltu â’r llwybrau cerdded a beicio presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Stryd: 

“Mae ystod eang o fanteision ynghlwm wrth ddulliau teithio llesol, o helpu i ostwng allyriadau carbon a gwella safon yr aer i wella iechyd a lles, felly dyma gyfle ardderchog i drigolion Sir y Fflint ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.

“Er mwyn dylunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, hoffem gael barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl, yn enwedig y rheiny nad ydynt yn cerdded neu feicio ar hyn o bryd, a byddem yn annog pob preswylydd a busnes i gymryd rhan.

“Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siwr bod llwybrau sy'n cael eu creu ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i’r gymuned gyfan.

“Defnyddir eich adborth i helpu i greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir y Fflint o lwybrau cerdded a beicio.”

Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i ddarparu adborth ewch i Dweud eich Dweud Heddiw – Teithio Llesol Sir Y Fflint / Flintshire Active Travel – Commonplace 

 

Os nad ydych yn gallu cael mynediad at y Rhyngrwyd gallwch anfon eich barn at active.travel@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 701234. 

 

Croesawir adborth tan 1 Gorffennaf 2021.